Mae Media Cymru ac Outernet London yn gwahodd pobl greadigol profiadol i gyflwyno syniadau ar gyfer darn newydd o gynnwys trochi. Dyma gyfle prin i greu profiadau beiddgar sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa ar un o’r platfformau mwyaf datblygedig yn y byd ar gyfer cyfryngau amser real.
Yn dilyn gweithdy yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd, bydd hyd at ddau brosiect llwyddiannus yn cael hyd at £25,000 yr un i ddatblygu eu syniad.
Mae’n rhaid i’r gwaith amlygu hunaniaeth a dyfodol arloesedd creadigol yng Nghymru a manteisio ar alluoedd technolegol rhyfeddol Outernet.
Mae Media Cymru yn chwilio am syniadau cofiadwy sy’n gwthio ffiniau creadigol a thechnegol, megis naratifau rhyngweithiol, seinweddau ymatebol, delweddau cynhyrchiol, profiadau sy’n defnyddio realiti estynedig neu straeon trochi sy’n ymateb i symudiadau’r gynulleidfa. Dychmygwch gyfuniad o theatr drochol a chelf ddigidol; cyfuniad o ddata a dawns; cyfuniad o gerddoriaeth a symudiad.
Dywedodd Gavin Johnson, Cynhyrchydd Media Cymru:
“Cynfas byw, trochol yw Outernet sydd wedi’i leoli yn un o ddinasoedd prysuraf y byd. Dyma gyfle prin i bobl greadigol Cymru gael arbrofi ar raddfa fawr, i gysylltu â chynulleidfaoedd newydd, ac i adrodd straeon pwerus gan ddefnyddio’r dechnoleg fwyaf cyffrous sydd ar gael. Dyma’r union fath o lwyfan sy’n edrych tua’r dyfodol sy’n cyd-fynd â chenhadaeth Media Cymru i hyrwyddo arloesedd, cynaliadwyedd a thwf cynhwysol yn sector y cyfryngau.
Rydyn ni’n gweld hyn fel dechrau perthynas hirdymor rhwng Cymru ac un o lwyfannau creadigol mwyaf amlwg y DU. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae crewyr Cymru yn ymateb i’r her.”
Bydd y prosiectau llwyddiannus yn rhan o arddangosfa nodedig Media Cymru yn ystod hydref 2026.
Cwmni adloniant cyfryngol byd-eang yw Outernet. Mae’n dod â cherddoriaeth, ffilm, celf a gemau ynghyd mewn ffyrdd sy’n eich helpu i ymgolli yn y profiad. Mae man adloniant y cwmni ar Tottenham Court Road, Llundain yn cynnwys sgriniau amlapio eglur iawn, a’r rhain yw’r mwyaf yn y byd.
Bydd modd gwneud cais o ddydd Llun 16 Mehefin hyd at ddydd Gwener 27 Mehefin.