Mae Llywodraeth Cymru yn casglu tystiolaeth ar sut mae’r sector diwylliant yn ymdrin â materion hinsawdd a natur.

Mae’r arolwg hwn wedi’i anelu at y sector diwylliant a’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru ac nid yw ar gyfer aelodau’r cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adborth gan y rhai sy’n cynrychioli buddiannau cwmnïau a sefydliadau sy’n gweithio yn y sectorau diwylliant ac amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.

Mae’n gofyn cwestiynau fel:

- Faint o flaenoriaeth yw gweithredu ar newid hinsawdd i chi ar hyn o bryd?

- Beth yw’r heriau pennaf yn y sector diwylliant?

- Pa gymorth allai eich helpu i gymryd camau pellach?

Bydd eich atebion yn helpu Llywodraeth Cymru i werthuso agwedd, ymddygiad, dealltwriaeth a dull y sector ar hyn o bryd tuag at argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd eich mewnbwn gwerthfawr yn arwain Llywodraeth Cymru wrth benderfynu ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi datblygiad y sector.

Mae’r ymchwil hon yn cael ei chynnal gan Regen mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Garbon a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni o gais yn ôl y gofyn gan Fframwaith Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 18 Chwefror.