Band indi-pop breuddwydiol, artist pop electro yn ei harddegau, grŵp roc, rap a reggae byw, cantores jazz, cynhyrchydd dawns ac un o’r chwaraewyr banjo cyflymaf yng Nghymru.

Dyma flas yn unig ar y 12 artist o Gymru sydd wedi’u dewis gan arbenigwyr y diwydiant i elwa o brosiect Gorwelion, sydd wedi gweld bandiau’n perfformio mewn gwyliau yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn recordio caneuon yn stiwdios byd-enwog Rockfield a Maida Vale. Mae enwau’r artistiaid wedi cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad a fynychwyd gan arbenigwyr y diwydiant yn y lleoliad cerddoriaeth eiconig, Clwb Ifor Bach, Caerdydd.

I ddathlu'r cyhoeddiad, cafodd yr artist o Gymru, Cadi Lane, ei chomisiynu i greu gwaith celf yn cynnwys pob band i'w arddangos uwchben Stryd Womanby yng Nghaerdydd, sy’n cael ei hystyried gan lawer fel calon sîn cerddoriaeth fyw de Cymru.

"Rydyn ni’n derbyn cannoedd o geisiadau bob blwyddyn ac mae bob amser yn anodd iawn dewis 12 yn unig, ond mae’n deg dweud bod hon yn oes aur i gerddoriaeth Gymreig ar y funud.” 

Nod Gorwelion Horizons, prosiect sy’n cael ei gyflwyno’n flynyddol gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, yw cefnogi datblygiad cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru. Mae detholiad o 12 o fandiau a cherddorion yn cael eu dewis bob blwyddyn gan arbenigwyr i fod yn rhan o'r prosiect, gan dderbyn arweiniad a chefnogaeth i sefydlu eu gyrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth.

Dywedodd Bethan Elfyn, cyflwynydd ar BBC Radio Wales a Radio Cymru a rheolwr prosiect Gorwelion Horizons: “Mae’n fraint enfawr cael datgelu pa artistiaid sy’n cael bod yn rhan o’r prosiect eleni. Mae'r rhestr yn cynnwys pobl greadigol eithriadol dalentog, sy’n cynhyrchu cerddoriaeth drawiadol ar draws amrywiaeth o genres. Rydyn ni’n derbyn cannoedd o geisiadau bob blwyddyn ac mae bob amser yn anodd iawn dewis 12 yn unig, ond mae’n deg dweud bod hon yn oes aur i gerddoriaeth Gymreig ar y funud.” 

Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd 12 artist Gorwelion Horizons yn cael cynnig cyfleoedd i chwarae mewn nifer o wyliau cerddorol a recordio sesiynau radio. Bydd Bethan Elfyn a’i thîm yn gweithio gyda’r artistiaid i hybu eu cerddoriaeth, cefnogi eu datblygiad a chodi eu proffil yng Nghymru a thu hwnt.  

Dywedodd Huw Stephens, cyflwynydd ar BBC Radio 1: “Mae hi’n gyfnod cyffrous iawn o ran cerddoriaeth o Gymru. Mae Boy Azooga er enghraifft yn chwarae mewn gŵyl gyda Bob Dylan a Neil Young. Ac mae Alffa, y band roc o ogledd Cymru, oedd yn rhan o Gorwelion llynedd sy’n gyfrifol am ysgrifennu ‘Gwenwyn’, sef y gân Gymraeg cyntaf i gael mwy na 3 miliwn o wrandawyr ar Spotify.

“Mae hwn yn destament i bobl ar draws y byd sydd ddim yn unig yn gwrando ar gerddoriaeth sy’n dod o Gymru, ond pobl sy’n mynd allan o’i ffordd i’w ddarganfod. Mae pethau cyffrous i ddod o ran cerddoriaeth yng Nghymru ac rwy’n siŵr y bydd y 12 trac Gorwelion yn cyrraedd rhestrau chwarae pobl cyn diwedd y flwyddyn. Bydda’i yn sicr yn chwarae fy ffefrynnau i ar y radio.”

Roedd yr arbenigwyr ar y panel o 25 o bobl oedd yn gyfrifol am ddewis 12 artist Gorwelion eleni yn cynnwys cynhyrchwyr radio, trefnwyr gwyliau cerddorol, academyddion cerddorol ac asiantau cerddoriaeth ar lawr gwlad, gan gynnwys hyrwyddwr Sofar Sounds Ruth Lalliankimi, Julie Weir o Sony Music, Neal Thompson o Focus Wales, sylfaenydd Ladies of Rage Ffion Wyn, a threfnydd gŵyl Wales Goes Pop a hyrwyddwr Moon Club Liz Hunt.

Dywedodd Bethan Elfyn: “Mae’r bandiau’n cael eu dewis ar sail cerddoriaeth, momentwm a gweithgarwch - rydyn ni yma i gefnogi hynny.”

Dywedodd Lisa Matthews, o Gyngor Celfyddydau Cymru: “Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan annatod o draddodiad diwylliannol Cymru ers cenedlaethau. Mae’n lle i bobl o bob cefndir gysylltu, creu a bod yn artistig mewn gofod cydweithredol. Mae’n hanfodol bwysig bod pobl greadigol yng Nghymru’n cael cefnogaeth, arbenigedd, cyfleoedd a llwyfannau i lwyddo. Am y rheswm yma, rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Gorwelion a’r artistiaid sy’n dod drwy’r prosiect.”

Dywedodd Hannah Grace, aelod o brosiect Gorwelion yn 2015 sydd wedi perfformio ar Sioe Frecwast BBC Radio 2 a theithio gyda REEF y llynedd: “Prosiectau fel hyn sy’n gwneud Cymru’n wahanol i weddill y DU o ran cefnogi creadigrwydd a gallu cerddorol. Bydd Gorwelion yn cynnig cyfle i’r artistiaid o Gymru chwarae yn rhai o wyliau cerddorol mwyaf y byd ac yn y stiwdios recordio mwyaf eiconig yn hanes cerddoriaeth. Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o brosiect Gorwelion ac rydw i’n edrych ymlaen at weld beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig i’r artistiaid eleni.”

Dyma 12 artist newydd Gorwelion (yn nhrefn yr wyddor):

  • Codewalkers – band roc, rap a reggae gyda phum aelod o Gaerdydd. Ffurfiwyd y band yn 2016 pan recriwtiodd y brodyr Ben Dabson, cynhyrchydd, a Dafydd Dabson, gitarydd, y canwr Sean Babatola, y basydd Chay Lockyer a’r drymiwr Aled Lloyd i wella eu sain. 
  • Darren Eedens & the Slim Pickin’s – yn cael ei alw’n aml yn “The Dirty Little Picker” ar daith, daw Darren Eedens o Ganada yn wreiddiol ond mae’n galw Caerdydd yn gartref erbyn hyn. Mae ei ‘Slim Pickin’s’ yn cynnwys y siaradwr Cymraeg Rhys Morgan ar y bas, Edd Clemas ar y drymiau a David Grubb ar y ffidil, ac mae'r band yn ymuno â Gorwelion ar ôl rhyddhau ei albwm cyntaf yn gynharach eleni.
  • Endaf – cynhyrchydd o Gaernarfon sy’n cyfuno lleisiau neo-soul gyda garage a deep house. Rhyddhaodd Endaf ei EP gyntaf yn 2016 ac ef yw sylfaenydd y noson glwb ym Mangor, High Grade Grooves.
  • Esther – cantores jazz a DJ ac mae Esther i’w gweld yn rheolaidd yn gigio ar gylched indi Caerdydd a bydd yn ymddangos fel rhan o daith Red Bull Polyrhythm yr haf yma.
  • Eve Goodman - wedi’i hysbrydoli gan gantorion fel Joni Mitchell a Suzanne Vega, cafodd y gantores a'r gyfansoddwraig yma o’r Felinheli gyfle i dreulio cyfnod preswyl am fis fel artist mewn ‘carafán greadigol’ (Y CARNafan) yng Nghaernarfon y llynedd, gan gyfarfod â phobl leol a throi eu straeon yn ganeuon. Mae Eve yn canu yn y Gymraeg ac yn Saesneg. 
  • Gwilym – indi-rocwyr o’r Caernarfon ac Ynys Môn, gogledd Cymru. Gwilym oedd prif berfformwyr Dydd Miwsig Cymru yn ddiweddar a chipiodd y band bum gwobr yng ngwobrau cerddoriaeth Gymraeg Gwobrau’r Selar yn 2019. 
  • HANA2k – artist ‘pop-pinc’ fel mae’n galw ei hun sy’n enwi Britney Spears a Kanye West fel dylanwadau pwysig arni. Cafodd sengl HANA2K, ‘Pretty Enough’, ei chanmol fel “cwbl wych” gan y beirniaid pan gafodd ei rhyddhau y llynedd.
  • Jack Perrett – canwr a chyfansoddwr o Gasnewydd sydd wedi cael ei gymharu ag Oasis a The Stone Roses. Cafodd albwm cyntaf Perrett, ‘What You Saying?’, ganmoliaeth frwd gan feirniaid y DU a’i chwarae ar y radio yn America ac Awstralia. Mae’n mynd i ŵyl Ynys Wyth yn fuan gyda This Feeling.
  • Kidsmoke – band o Wrecsam sy’n creu cynnwrf gyda’i indi-pop breuddwydiol gydag ymddangosiadau eisoes yn FOCUS Wales, SXSW yn Austin, Texas, ar gyfres ‘Black Mirror’ ar Netflix ac ar ‘Made in Chelsea’ ar E4.                
  • Rosehip Teahouse – band pop ‘stafell wely’ disglair - mae gan Rosehip Teahouse sengl finyl newydd ar y ffordd a thaith haf wedi’i threfnu yn y DU ac, fel rhan o hynny, byddant yn chwarae yn The Moon yng Nghaerdydd ar 12 Gorffennaf.
  • SERA – wedi’i hysbrydoli gan ei magwraeth yng Nghaernarfon, rhwng mynyddoedd gogoneddus Eryri a Môr Iwerddon, mae SERA yn gantores a chyfansoddwraig ddwyieithog gydag albwm a thaith ar y gorwel ar gyfer 2019.  Mae ei chaneuon yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
     
  • Y Cledrau – band indi-roc gyda phedwar aelod o’r Bala. Cafodd albwm cyntaf band Cymraeg Y Cledrau, ‘Peiriant Ateb’, ei ganmol gan BBC Radio 6 Music. Bydd y band yn chwarae yng ngŵyl TAFWYL yng Nghastell Caerdydd yr haf yma. Mae Y Cledrau yn perfformio yn y Gymraeg.

Mwy o wybodaeth am Gorwelion a chyfle i wrando ar y bandiau sy’n rhan o’r cynllun yma: https://www.bbc.co.uk/events/rb8v4f neu chwiliwch am Gorwelion Horizons.