Bydd Papertrail, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn cynnal rhaglen hyfforddi beilot o 2-4 Medi i gefnogi cyfarwyddwyr a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i ddatblygu'r sgil o greu theatr y gall pobl fyddar neu drwm eu clyw eu cyrchu.

Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer cyfarwyddwyr llwyfan, ar unrhyw gam o’u gyrfa, sydd â diddordeb mewn darganfod ffyrdd creadigol o ddymchwel rhwystrau i hygyrchedd.

Gall cyfyngiadau amser a chyllid yn ystod ymarferion gyfyngu ar y broses o feddwl yn greadigol am hygyrchedd a sut i weithio gyda dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain. Bydd y gweithdy hwn yn cynnig awyrgylch cefnogol i holi cwestiynau ac arbrofi â syniadau ochr yn ochr ag actorion a dehonglwyr.

Beth fydd yn digwydd?

Dros dridiau byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau chwareus sy’n canolbwyntio ar hygyrchedd creadigol a’r broses ymarfer, gan gynnwys creu ymarferion twymo hygyrch a datblygu ymddiriedaeth rhwng dehonglwyr a pherfformwyr. Drwy weithio ar olygfeydd o ddrama gyfoes, byddwn yn archwilio llwyfannu a dylunio gyda hygyrchedd mewn golwg. Arweinir y gweithdy gan ymarferwyr blaenllaw o fewn hygyrchedd creadigol, gan gynnwys Jenny Sealey (Graeae) a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, Julie Doyle a Tony Evans. Hwylusir y gweithdy gan Gyd-Gyfarwyddwyr Artistig Papertrail, Bridget Keehan a Jonny Cotsen. Cynhelir y gweithdy yn Saesneg.

Beth fydd y gost?

Hoffwn i’r hyfforddiant hwn fod yn hygyrch i’r rhai sydd ar incwm isel, felly caiff ei gynnig ar raddfa sydd wedi ei sybsideiddio: £300.

Ble a Phryd?

Cynhelir y gweithdy tri diwrnod hwn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, o 2-4 Medi, 2025 (o ddydd Mawrth i ddydd Iau). Bydd y sesiynau’n rhedeg o 9.30 y.b. hyd at 4.30 y.h., ac mae’n ofynnol bod yn bresennol dros y tri diwrnod cyfan.

Mae lleoedd yn gyfyngedig i 8 person, felly archebwch cyn gynted â phosibl trwy glicio ar y ddolen isod.

Y dyddiad cau ar gyfer archebu yw dydd Gwener 25 Gorffennaf ond cofiwch fod lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am archebu, neu os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â manager@papertrail.org.uk.

Rydym wedi ymrwymo i waredu â rhwystrau i gyfrannu. Os oes gennych anghenion hygyrch, neu os oes angen cymorth arnoch, plis cysylltwch i drafod sut y gallwn eich cefnogi.
 

Dyddiad cau: 25/07/2025