BETH?
Mae Celfyddydau mewn Iechyd BIP Aneurin Bevan, CAMHS a thimau Seicoleg Plant a Theuluoedd yn chwilio am artistiaid i ymgysylltu â phobl ifanc a theuluoedd fel rhan o’u prosiect Celf a’r Meddwl, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring 2025–26, Lleisiau Pobl Ifanc.
PAM?
Trwy ein digwyddiadau dros dro, Teuluoedd Creadigol, hoffem ymgysylltu ag amrywiaeth o artistiaid i gyflwyno gweithdai ymgysylltu creadigol yn y gymuned/lleoliadau celfyddydol. Bydd pobl ifanc (rhwng 13 a 17 oed) sy’n derbyn cymorth iechyd meddwl gan BIPAB, ynghyd ag aelodau o’r teulu/gofalwyr, yn cael eu gwahodd i ymuno â gweithdai creadigol sydd wedi’u dylunio i archwilio eu straeon a chasglu eu lleisiau i lywio arloesedd gwasanaeth.
Rydym eisiau defnyddio creadigrwydd fel modd chwareus o ymgysylltu â’n teuluoedd, a dysgu oddi wrthynt, tra’n cynnig mecanweithiau a chysylltiadau ychwanegol i helpu i lywio heriau iechyd meddwl gyda’n gilydd fel teulu.
SUT?
Bydd gofyn i artistiaid ddarparu gweithgaredd/gweithdy ymgysylltu creadigol dros dro ar gyfer teuluoedd gwahoddedig am hyd at 2 awr y sesiwn. Bydd gweithdai yn ymatebol ac yn hyblyg, gan ddarparu ffyrdd addas i deuluoedd gael mynediad gyda’i gilydd neu fel unigolion. Bydd gofyn i artistiaid rannu dysgu/themâu allweddol sy’n dod o’r gwaith.
BLE?
Bydd 1 digwyddiad yn cael ei gynnal ym mhob ardal o ranbarth BIPAB: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
PRYD?
Mis Chwefror - mis Mawrth 2025: Proses ymgeisio ac ymgysylltu ag artistiaid
Mis Ebrill - mis Hydref 2025: Cyflwyno yn ystod gwyliau ysgol / penwythnos lle bo modd. Rhannu themâu a chanfyddiadau allweddol.
Mis Tachwedd 2025: Gwerthusiad o’r prosiect wedi'i gwblhau.
FFI:
1 diwrnod cyflwyno ar gael fesul safle, ynghyd ag amser cynllunio â thâl ac amser myfyrio/gwerthuso i'w gytuno. Cyfradd ddyddiol ymarferydd celfyddydau cystadleuol; adlewyrchu sgil, profiad a gofynion prosiect e.e. rhwng £175-£275 yn dibynnu ar brofiad. Mae adnoddau ar gyfer y prosiect yn ychwanegol at y ffi hon.
DYDDIAD CAU: Mae’n rhaid i geisiadau gael eu derbyn erbyn 12pm dydd Gwener 21 Chwefror 2025
SUT I YMGEISIO:
Anfonwch y canlynol dros e-bost* at: ABB.ArtsinHealth@wales.nhs.uk
• Llythyr cyflwyniad byr (500 gair ar y mwyaf)
• Eich ymateb i’r briff (Ysgrifenedig: 750 gair / 2 dudalen A4 ar y mwyaf NEU fformat fideo os yw'n well gennych: 5 munud ar y
mwyaf)
o Dywedwch fwy wrthym am sut y byddech yn ymgysylltu â Phobl Ifanc a Theuluoedd sy’n defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl a pha fodd(au) a dulliau y byddech yn eu defnyddio.
o Sut y byddech yn sicrhau bod eich gwaith yn hygyrch, yn atyniadol ac yn annog pobl ifanc a theuluoedd i archwilio eu straeon a’u profiadau’n ddiogel?
o Disgrifiwch ganlyniadau’r gweithdai arfaethedig a sut y bydd themâu a straeon allweddol teuluoedd yn cael eu harchwilio a’u cofnodi ar gyfer eu rhannu o fewn y prosiect.
• Eich CV yn tynnu sylw at eich gwaith blaenorol yn y maes hwn ac unrhyw enghreifftiau neu gysylltiadau i waith a gynhyrchwyd
ar y cyd â phobl ifanc y gallwch eu rhannu.
Amlinellwch y canlynol:
• Eich argaeledd hysbys, dyddiau / dyddiadau dewisol yn ystod gwyliau ysgol a phenwythnosau.
• Eich statws DBS a thystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
• Rydym yn annog artistiaid sy’n cael eu tangynrychioli o fewn y celfyddydau i ymgeisio. Mae hyn yn cynnwys artistiaid sydd ag anableddau dysgu neu gyflyrau iechyd hirdymor, artistiaid niwrowahanol, artistiaid o gefndiroedd incwm isel, artistiaid LHDTC+ ac artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang.
Croesawir cynigion gan artistiaid Cymraeg. Os oes
gennych unrhyw ofynion mynediad y dylem fod yn ymwybodol ohonynt, o ran gwneud cais cychwynnol a/neu fod yn
bresennol mewn cyfweliad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
*Nodwch: Mae’n rhaid i bob ffeil fod ar ffurf pdf, docx, jpg neu png. Ar gyfer fformatau eraill neu ddolenni i yriannau cwmwl ar-lein, cysylltwch â ni cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno. Mae gennym wal dân diogelwch a all atal pethau rhag ein cyrraedd fel y bwriadwyd, felly os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â ni.
BETH SY’N DIGWYDD NESAF?
Byddwn yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr ar ôl y dyddiad cau. Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i
gyfweliad ar 11 neu 12 Mawrth ar adeg sy’n gyfleus.
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â: ABB.ArtsinHealth@wales.nhs.uk neu ffoniwch: Claire Turner ar 07989 140462, neu Sarah Goodey ar 07976 375781.
Cefnogir y prosiect hwn gan BIPAB, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring.