Labordy datblygu gwneuthurwyr ffilmiau yw Lle / Space sy’n cynnwys encil creadigol ym Mhenrhyn Gŵyr, yn ne Cymru, ar 4ydd – 9fed fed Mai 2025, ac yna mentora, dosbarthiadau meistr a sesiynau meithrin gyrfa dros ddyddiau dilynol drwy gydol y flwyddyn. Bydd yr encil creadigol preswyl yn cael ei arwain gan LIM | Labordy datblygu rhyngwladol Less Is More. Os na allwch ei gwneud hi i’r dyddiadau yng Ngŵyr, anfonwch e-bost atom - network@ffilmcymruwales.com - i gofrestru eich diddordeb mewn gweithgaredd tebyg yn y dyfodol.
Trwy gymryd rhan yn y rhaglen, byddwch yn dod yn rhan o grŵp cefnogol o wneuthurwyr ffilmiau datblygol a ffigurau blaenllaw yn y diwydiant ffilm a theledu. Byddan nhw'n eich helpu chi i fireinio eich crefft, datblygu prosiect ffilm sydd gennych chi ar y gweill, a chyrraedd y lefel nesaf yn eich gyrfa, a’r cyfan mewn amgylchedd sy'n hybu egwyddorion gofal, lles a pharch. Bydd cymorth dilynol i’r cyfranogwyr hefyd.
Nid oes ffi am y labordy hwn. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu talu £120 y dydd am gymryd rhan ac ni fydd angen iddyn nhw dalu am yr holl lety a phrydau bwyd angenrheidiol. Mae cymorth hefyd ar gyfer costau teithio.
Mae cymorth ychwanegol ar gael os byddwch yn ei chael hi'n anodd cymryd rhan lawn yn y labordy oherwydd anfantais economaidd-gymdeithasol, b/Byddardod, anabledd, niwroamrywiaeth, colli golwg neu glyw neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol nad ydych yn ei gysylltu â'r derminoleg hon.
Mae Lle / Space yn cynnig lle i chi anadlu, i adeiladu, i greu, ac i syrthio mewn cariad â ffilm unwaith eto. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais!
Pwy all wneud cais?
- Mae labordy Lle / Space yn canolbwyntio ar bobl yng Nghymru sy'n uniaethu fel rhan o'r mwyafrif byd-eang ac sy'n awyddus i ysgrifennu, cyfarwyddo neu gynhyrchu ffilm nodwedd sinematig neu sydd eisoes â rhywfaint o brofiad. Wrth ddweud y mwyafrif byd-eang, yr hyn a olygwn yw’r bobl hynny sy'n uniaethu fel Pobl Dduon, Asiaidd, Brown, treftadaeth ddeuol, brodorol i'r de byd-eang, a/neu bobl sydd wedi cael eu diffinio ar sail hil fel lleiafrifoedd ethnig.
- Dylai fod gan gyfranogwyr hanes creadigol ym myd teledu neu ffurf arall ar gelfyddyd ac fe allan nhw fod yn canolbwyntio ar ffilm animeiddiedig, ffilm naratif gweithredu byw neu ffilm ddogfen, ond ni allan nhw fod wedi bod yn brif ysgrifennwr, cyfarwyddwr neu gynhyrchydd ar ffilm nodwedd yn ystod y deng mlynedd diwethaf sydd wedi cael ei dosbarthu’n fasnachol yn y DU (h.y. heb fod wedi’i hunan-ryddhau).
- Rhaid i chi hefyd fod dros 18 oed a heb fod mewn addysg amser llawn.
Mae'n bwysig i ni fod gweithgarwch yn cael ei ddylunio o amgylch eich uchelgeisiau a'ch anghenion chi, felly byddwn yn cadw rhai elfennau o'r rhaglen yn hyblyg ac yn eich cynnwys chi fel partner gweithredol wrth ddylunio'r rhaglen.
Sut ydw i'n gwneud cais?
Bydd angen i ymgeiswyr fod â syniad am ffilm nodwedd (gweithredu byw neu wedi'i hanimeiddio) neu ffilm ddogfen nodwedd y maen nhw’n gwneud cais ag ef er mwyn manteisio’n llawn ar y labordy, hyd yn oed os mai dim ond syniad sinematig cynnar ydyw.
Oni bai ein bod wedi cytuno â chi ar ffordd arall i wneud cais (gweler Cymorth Mynediad isod) dylech:
- Darllen y Canllawiau
- Lawrlwytho a llenwi’r ffurflen gais
E-bostio’r ffurflen wedi'i llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol angenrheidiol i network@ffilmcymruwales.com erbyn y Dyddiad Cau
Dyddiad cau: 12pm Dydd Mawrth 25ain Mawrth 2025