Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Chanolfan Celfyddydau Pontio wedi dod at ei gilydd er mwyn cynnig Interniaethau Cefn Llwyfan sy’n cynnig mynediad i yrfa yn y celfyddydau perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg, a chyfle arbennig i hyfforddi tra’n gweithio. Ry’n ni wedi llwyddo i sicrhau nawdd o Gronfa Her Fawr ARFOR, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer yr interniaethau.
Mae Interniaeth Cefn Llwyfan yn ffordd ardderchog o ddod i mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd cyfle i gael profiad o weithio gyda nifer o sefydliadau yn y celfyddydau perfformio.
Mae’r rôl yn cynnig cyfleon i ennill profiad hanfodol o’r byd cefn-llwyfan – p’un ai fod hynny’n rheoli llwyfan, neu elfennau mwy technegol fel sain, goleuo ac AV – ac yn cynnig cyfleoedd i rhwydweithio gydag ystod eang o bobl ar draws y sector. Bydd y sgiliau y byddwch yn eu dysgu yn medru cael eu defnyddio ar draws y celfyddydau perfformio, yn cynnwys:
● Theatr
● Opera
● Dawns
● Cerddoriaeth
● Syrcas
● Digwyddiadau Byw
... a llawer mwy.
Cyfnod:
6 mis – Gorffennaf i Ragfyr 2024
Oriau:
Llawn amser – 37.5 awr yr wythnos
Lleoliad:
Mae opsiwn i fod yn bennaf seiliedig gydag un o’r ddau prif bartneriaid sef Theatr Genedlaethol Cymru neu Canolfan Celfyddydau Pontio. Mae prif swyddfa Theatr Gen yng Nghaerfyrddin ac mae Pontio wedi ei leoli ym Mangor.
Cyflog:
Cyflog Byw i Gymru – £11,700 am y 6 mis (£23,400 y flwyddyn pro rata). Byddwch hefyd yn cael ad-daliad am unrhyw gostau teithio, cynhaliaeth a llety, yn unol â pholisi treuliau Theatr Gen.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un ond rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi eu neilltuo, yn cynnwys pobl o'r mwyafrif byd eang, pobl anabl a phobl o gefndir incwm isel.