Cyfnod cyflogaeth: 13 Mawrth - 13 Medi 2024

Cyflog: £23,400 (cyfwerth ag amser llawn)

Dau diwrnod yr wythnos pro rata: 0.4 = £9,360 (yn unol â’r cyflog byw gwirioneddol)

Oriau gwaith: Rhan-amser, 15 awr yr wythnos, 9.30am - 5.30pm, dydd Mercher i ddydd Sadwrn (pan fyddwn ar agor i'r cyhoedd, bydd disgwyl i chi weithio bob dydd Sadwrn)

Mae g39 yn penodi intern oriel i gefnogi pob agwedd ar ein rhaglen ar gyfer 2024. Wedi'i strwythuro ar gyfer y rhai sydd ar gamau cynnar eu gyrfa yn y sector celfyddydau gweledol, mae'r rôl yn cynnig hyfforddiant, profiad ymarferol, a mewnwelediad i'r prosesau creadigol a gweithredol sy'n gysylltiedig â rhedeg sefydliad celfyddydol. Mae interniaeth 2024 yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a chysylltiadau – gan gefnogi uchelgeisiau gyrfa y tu hwnt i’r cyfnod chwe mis.



Y rôl



Byddwch yn gweithio gyda'r holl dîm yn g39 i gefnogi'r gwaith ymchwil i raglen g39 a’r gwaith o’i chyflwyno. Mae hyn yn cynnwys arddangosfeydd, cynlluniau cefnogi artistiaid, gweithdai, sgyrsiau, digwyddiadau a rhaglen y sinema. Bydd y rôl yn cynnwys cymorth ymarferol yn ogystal â chynllunio ar gyfer ei gyflenwi, gyda hyfforddiant mewn agweddau technegol o gyflwyno.



Mae ein cymuned a’n cynulleidfaoedd yn ganolog i’n gwaith. Pan fyddwn ar agor i’r cyhoedd, byddwch yn rhannu dyletswyddau blaen tŷ â gweddill tîm g39. Bydd hyn yn cynnwys bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr, croesawu pobl i'r adeilad a chyfeirio ymholiadau, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw yn y mannau cyhoeddus.



Bydd marchnata yn sail i hyn oll, a byddwch yn cynorthwyo i gynhyrchu ein bwletin rheolaidd, gan gynnwys llunio cynnwys, ei gyhoeddi a’i ddosbarthu. Byddwch yn cefnogi'r tîm i reoli'r diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.

Dyddiad cau: 13/02/2024