Rhan ganolog o’r Ŵyl yw’r llu o bethau sydd am ddim ac i bawb eu mwynhau. 

Mae’r penwythnos hir yn cynnig diwrnodau gwych yn llawn hwyl i'r teulu. Gall pob oed fwynhau gweithgareddau clai ymarferol, pori
arddangosfeydd unigryw a cymryd eu lle wrth flaen ciw y gwerthiant cwpanau arbennig.

Gwyliwch danio odynau hudolus, gwylio ffilmiau deniadol, archwilio stondinau amrywiol, a gweld artistiaid
medrus wrth eu gwaith. 

Dewch i roi cynnig ar glai a rhyddhewch eich creadigrwydd ym mhabell Claytopia. 

Mae cyfle anhygoel i danio eich darn serameg eich hun yn ein odynnau raku a chasgenni arbennig ar y piazza, a gynhelir gan Gymdeithasau Crochenwyr Gogledd a De Cymru. 

Mae angen tocynnau ar gyfer arddangosiadau a darlithoedd, ond mae popeth arall ar agor i bawb.

Gŵyl Rhyngwladol Serameg 2025
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth SY23 3DE
Dydd Gwener 27-29 Mehefin 2025
 

Dyddiad cau: 29/06/2025