Rydym yn gyffroes i gyhoeddi byddwn ni’n rhedeg Gweithdy Ymwybyddiaeth Byddardod wedi’i arwain gan yr artist anhygoel a Ymgynghorydd Byddar, Emily Rose.
Amdan Emily Rose: Mae Emily Rose yn hyrwyddo mynediad creadigol fel tywysydd teithiau IAP, ymgynghorydd IAP, hwylusydd gweithdai creadigol, ac ymgynghorydd hygyrchedd gwyliau/digwyddiadau. Mae hi'n gweithio ar brosiectau amrywiol i wneud y celfyddydau a diwylliant yn gynhwysol i bawb. Mae hi hefyd yn Artist Gweledol Byddar sy’n archwilio’r byd dirgrynol o Celf Op cyfrwng cymysg. Wedi'i sbarduno gan angerdd dros greu celf sy’n hygyrch i'r gymuned Fyddar, mae hi'n ymwneud yn gyson ag amrywiaeth o brosiectau, gan wthio ffiniau canfyddiad ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd gyda'i chreadigaethau deinamig ac ysgogol gweledol.
Bydd y gweithdy rhyngweithiol yma’n archwilio y diwylliant Byddar, cyfathrebu cynhwysol a ffyrdd ymarferol o sut i wneud llefydd mwy hygyrch.
Byddwch chi’n dysgu:
- Agweddau allweddol o ddiwylliant a hunaniaeth Fyddar
- Sgiliau sylfaenol Iaith Arwyddion Prydain (IAP)
- Rhwystrau cyffredin mae unigolion Byddar ac trwm eu clyw yn wynebu
- Sut i greu amgylchedd sy’n fwy cynhwysol a hygyrch
Os ydych yn artist, addysgwyr, cydlynydd, neu jyst yn angerddol dros hygyrchedd, mae’r gweithdy hon ar gyfer chi!
Dydd Gwener, 28ain o Fawrth (1:30-3:30)
Oriel Glynn Vivian, Ystafell 1
Bydd angen archebu ymlaen llaw! Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cadwch eich lle drwy anfon e-bost at: onyourfacecollective@gmail.com
Gwybodaeth hygyrchedd: Bydd dehonglydd IAP yn y gweithdy i helpu gyda’r chyfathrebu.