Mae NoFit State Circus yn chwilio am Gweinyddwr / Derbynnydd brwd a threfnus sydd ag angerdd gwirioneddol dros y celfyddydau a'n gwaith ni.
Oes gennych chi sgiliau trefnu gwych a sgiliau TG rhagorol? Ydych chi’n ardderchog am weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hunan a chanfod atebion? Ydych chi’n dda am gyfathrebu? Ydych chi’n mwynhau cydweithio â phobl ac a ydych wir yn ymddiddori yn yr hyn rydym yn ei wneud ac yn frwd drosto?
Mae Gweinyddwr y Rhaglen Gymunedol/ Derbynnydd yn swydd allweddol a bydd yn cynnig cymorth gweinyddol effeithlon i dîm y Rhaglen Gymunedol a tîm y dderbynfa ac i’w gweithgareddau.
Ymunwch â ni!
Darllenwch y Disgrifiad o'r Swydd sy'n atodedig i ganfod manylion pellach am y rôl. Gofynnir i chi lenwi’r ffurflen gais a’r ffurflen fonitro cyfle cyfartal. Anfonwch eich ceisiadau at jobs@nofitstate.org
Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen tipyn o hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo’n llwyr, byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed wrthych.
Oriau Gwaith: Swydd lawn amser
Cyflog: £26,000 y flwyddyn
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am, Dydd Mercher 26 Chwefror 2025