1. Cyflwyniad a Chwmpas y Prosiect

Yn 2023, datblygodd Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Powys Strategaeth Gelfyddydau sy’n llywio sut fydd y cyngor yn parhau i gefnogi’r celfyddydau a diwylliant ledled y sir. Nod strategol a ddynodwyd oddi fewn i’r strategaeth yw i’r gwasanaeth wella o ran cydnabod a chefnogi rôl y celfyddydau a diwylliant wrth helpu i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd.

Fel rhan o ddechrau gweithredu’r strategaeth, mae Gwasanaethau Diwylliannol wedi sicrhau arian grant oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin i gwmpasu, datblygu a chefnogi rhwydwaith o gyfleoedd ar gyfer y celfyddydau, partneriaid sy’n seiliedig ar yr amgylchedd a natur, i weithio ar y cyd gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol a’r argyfwng hinsawdd.

Hyd yma, mae tîm y prosiect wedi meithrin cydberthnasau, dynodi gweithgaredd cyfredol a chanfod sefydliadau (celfyddydol a heb fod yn gelfyddydol) sydd â diddordeb i fod yn rhan o rwydwaith cydweithio’r celfyddydau a’r amgylchedd ledled Powys. Rydym ni bellach yn ceisio comisiynu gwasanaethau asiantaeth allanol neu arbenigwr allanol i:

  • Gydweithio â thîm y prosiect a phartïon sy’n mynegi diddordeb i ddatblygu cwmpas, cylch gwaith, nodau a gwerthoedd y rhwydwaith a chefnogi cynhyrchu datganiad o ddiben ac ymrwymiad ar gyfer aelodau cychwynnol y rhwydwaith.
  • Cydweithio â thîm y prosiect a phartïon sy’n mynegi diddordeb i archwilio rôl y celfyddydau, diwylliant ac ymagweddau creadigol fel catalydd i dyfu ymgysylltiad, newid ymddygiad, mwyhau a meddalu negeseuon o gwmpas, a helpu i fynd i’r afael â themâu amgylcheddol.
  • Darparu hyfforddiant a chefnogaeth i bartïon sy’n mynegi diddordeb a CSP i gynorthwyo syniadaeth a datblygu prosiect cydweithredol sydd wedi ei wreiddio mewn cymunedau, tirlun, lle lleol a llesiant, ac sy’n cefnogi cenhadaeth sefydliadau’r celfyddydau, natur ac amgylcheddol.
  • Darparu hyfforddiant a chefnogaeth i bartïon sy’n mynegi diddordeb i archwilio ffyrdd ymarferol y gall sefydliadau leihau eu heffaith amgylcheddol ar draws eu gweithredu, gweithgareddau, cynllunio a chyflenwi.

Rydym yn rhagweld y bydd y gweithgaredd hwn yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o hyfforddiant wyneb yn wyneb ar-lein, trafodaeth a sesiynau cyfnewid cymheiriaid, fodd bynnag rydym ni’n awyddus i weithio gyda, ac elwa o arbenigedd y cyflenwr a benodwyd i gytuno gyda’r cyflenwr a benodwyd am raglen derfynol y gweithgaredd.

2. Rheoli

Y cleient ar gyfer y prosiect yw Cyngor Sir Powys.

Caiff y prosiect ei reoli gan Emily Bartlett, Rheolwr Prosiect – Celfyddydau a Diwylliant

3. Sgiliau

Bydd yn rhaid i’r arbenigwr allanol gael:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r celfyddydau a diwylliant a sectorau argyfwng hinsawdd a natur.
  • Profiad ac arbenigedd wrth gefnogi syniadaeth a datblygu rhaglenni o weithgaredd rhwng y sectorau celfyddydol ac amgylcheddol.
  • Profiad ac arbenigedd fel arbenigwr cynaliadwyedd, natur ac argyfwng hinsawdd.
  • Hen hanes o gyflenwi hyfforddiant sy’n ymgorffori cynaliadwyedd, gweithredu hinsawdd a themâu cyfiawnder cymdeithasol i gefnogi’r sector diwylliannol a’r celfyddydau.

4. Dylai arbenigwyr allanol sydd am gael eu hystyried gyflwyno’r canlynol:

  • Dyfynbris am y gwaith
  • Datganiad o ddull yn amlinellu’r ymagwedd i’w dilyn, gan gynnwys graddfa amser ar gyfer y gwaith.
  • Dadansoddiad o gostau.
  • Amlinelliad o’r sgiliau a phrofiad proffesiynol a ddaw gyda’r arbenigwr allanol.
  • Enghreifftiau o waith tebyg yr ymgymerwyd ag e.
  • Amserlen y prosiect.  
  • Geirdaon (2).

Anfonwch gyflwyniadau i emily-francesca.bartlett@powys.gov.uk

Erbyn 8am, 8 Awst 2024

5. Graddfa Amser y Prosiect

Y dyddiad targed ar gyfer comisiynu’r gwaith yw 9 Awst 2024 gan ddechrau ar unwaith yn dilyn hynny.

Rydym ni’n rhagweld y bydd y cyflenwr a benodir yn gweithio gyda thîm y prosiect i ddatblygu’r rhaglen o weithgareddau ym mis Awst, gan gyflenwi gweithgareddau rhwng misoedd Medi a Thachwedd 2024.

Y dyddiad targed ar gyfer cwblhau’n llwyr yw 22 Tachwedd 2024.

7. Cyllideb y Prosiect

£15,000 (heb gynnwys TAW)

8. Meini Prawf Gwerthuso

Caiff y meini prawf canlynol eu defnyddio i werthuso cyflwyniadau briff:

  • 40% - gwerth ariannol y dyfynbris.
  • 60% - gwybodaeth feintiol, wedi ei thorri lawr fel a ganlyn:
    • 30% - ymgymryd ag asesiad o arbenigedd / gwaith tebyg
    • 30% - datganiad dull yn amlinellu ymagwedd

       
Dyddiad cau: 08/08/2024