Mae Cyngor Sir Powys wedi sicrhau cyllid grant gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac rydym am gomisiynu gwasanaethau arbenigwr allanol i gyflawni gwelliannau i'n gwefan Gwasanaethau Diwylliannol, StoriPowys .

Gellir cael briff llawn y prosiect gan celf@powys.gov.uk .

Yn 2023, datblygodd Gwasanaethau Diwylliannol Strategaeth Celfyddydau sy'n llywio sut y bydd y cyngor yn parhau i gefnogi'r celfyddydau a diwylliant yn strategol ledled y sir. Fel rhan o'r gwaith o weithredu'r strategaeth hon, rydym am ehangu cylch gwaith a chyrhaeddiad gwefan StoriPowys, trwy gadw'r cynnwys presennol tra’n datblygu proffil a chynrychiolaeth ar gyfer sector celfyddydol a chreadigol bywiog Powys.

Dymunwn gomisiynu dyluniad a datblygiad Cyfeiriadur Creadigol a Phecyn Cymorth Creadigol ar wefan StoriPowys, ochr yn ochr ag ailadeiladu gwefan StoriPowys yn CMS WordPress. Bydd y gwaith yr ydym yn ei gomisiynu yn ein galluogi i adlewyrchu a gwasanaethu sector celfyddydol a chreadigol Powys yn well, ochr yn ochr â Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd ac Archifau.

Mae'r gwaith o ddatblygu gwefan StoriPowys yn cael ei wneud fesul cam a dyma’r ail gam a cham olaf y datblygiad. Fel y cyfryw, bydd angen iddo fod yn gwbl gydnaws â datblygiad sydd eisoes wedi'i wneud yng ngham un ac wedi'i adeiladu ar ben y datblygiad hwnnw. 

Amserlen:

Dyddiad cau cyflwyno cynnig 11yb, 7 Hydref 2024

Dyddiad targed ar gyfer comisiynu datblygiad y wefan 8 Hydref 2024

Dyddiad targed ar gyfer cwblhau 16 Rhagfyr 2024

Cyllideb y Prosiect:

£30,000 (ac eithrio TAW)
 

Dyddiad cau: 07/10/2024