Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi dechrau prosiect i fapio cymaint â phosib o’r gweithgarwch celfyddydol sy’n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn creu darlun cyflawn a chyfredol o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru ben-baladr. Y nod yw tyfu’r gynulleidfa ar gyfer gweithiau Cymraeg ac ymestyn y cyfleoedd ar gyfer creu gwaith creadigol yn y Gymraeg.
 

Elen ap Robert a enillodd y tendr i gyflawni’r gwaith hwn wedi cystadleuaeth agored ar ddiwedd 2019. Bydd hi’n cysylltu â sefydliadau celfyddydol a chymunedol ar draws Cymru dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.

Gan siarad heddiw, dywedodd Elen:

“Mae ymchwil o gwmpas caffael iaith yn dangos i ni fod yr awydd i ddeall a chymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau diwylliannol yn ysgogi dysgu a defnyddio iaith. Mae’n dilyn felly bod gan y sector gelfyddydol a Chyngor Celfyddydau Cymru gyfrifoldeb a rôl bwysig i’w gyflawni o ran cyfrannu at gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.

“Pwrpas yr ymchwil hwn yw canfod y lefelau presennol o weithgarwch celfyddydol yn y Gymraeg sy'n digwydd ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar weithgarwch nad yw'n cael ei ariannu ar hyn o bryd gan y Cyngor a rhoi argymhellion i’r Cyngor am y ffordd ymlaen yn unol â’i amcanion. Bydd canfyddiadau’r gwaith hwn, rwy’n gobeithio, yn darparu sylfaen cadarn o wybodaeth y gellir adeiladu arno’n strategol at y dyfodol.”

Bydd y wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu ganddi yn arwain at argymhellion i Gyngor y Celfyddydau eu hystyried. Gan siarad heddiw, dywedodd Siân Tomos, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae’r Gymraeg yn elfen ganolog o’n diwylliant a’n hunaniaeth yma yng Nghymru ac mae gennym ni hawl fel cenedl i adrodd ein storïau ein hunain yn y Gymraeg llawn cymaint ag yn Saesneg.

“Mae data Cyngor Celfyddydau Cymru yn dangos bod lle i gredu bod modd creu a chyflawni llawer mwy trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y sector gelfyddydol, ac rydym yn amau mai trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill y medrwn ni wneud mwy i gyflawni’r potensial sy’n bodoli o fewn ein gwlad.

“Mae’r darn hwn o waith wedi ei gomisiynu felly gan y Cyngor i weld pa weithgarwch celfyddydol trwy gyfrwng y Gymraeg sydd eisoes ar y gweill mewn cymunedau o Fôn i Fynwy”.

Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â dau ddarn arall o waith ar y Gymraeg sydd ar y gweill gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar hyn o bryd.

Wythnos diwethaf cyhoeddwyd partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a chynllun peilot rhwng nawr a diwedd Mawrth, er mwyn annog rhagor o weithwyr y sector gelfyddydol i ddysgu neu wella safon eu Cymraeg.

Yn ogystal mae gwahoddiad i dendro ar agor ar hyn o bryd ar gyfer darn arall o waith ymchwil i fapio’r gweithgarwch marchnata yn Gymraeg ar draws Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i gyflawni’r gwaith hwnnw yw 31 Ionawr 2020.

Gellir cysylltu ag Elen er mwyn cyfrannu at y prosiect trwy e-bostio elenaprobert@outlook.com gan nodi “MAPIO GWEITHGAREDDAU CELFYDDYDOL YN Y GYMRAEG” yn y penawd.

DIWEDD                                             dydd Mawrth, 21 Ionawr 2020