Mae hon yn rôl barhaol o 21 awr yr wythnos.

Mae'r rôl ddeinamig hon yn canolbwyntio ar reolaeth y Swyddfa Docynnau a CRM, gwerthiannau a chyfathrebu ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau diwylliannol, academaidd a masnachol a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, ac ar gyfer prosiectau eraill ar y campws ac oddi arno.

Mae'r dyletswyddau'n cynnwys:

  • Casglu a lanlwytho data digwyddiadau i system a gwefan y Swyddfa Docynnau.
  • Hwyluso a goruchwylio'r broses werthu ar-lein a thasgau cysylltiedig.
  • Cynhyrchu adroddiadau ar gyfer swyddogaethau cyllid, rhaglennu a marchnata, a chwmnïau sy'n ymweld.
  • Monitro adborth cwsmeriaid a dadansoddi canlyniadau arolygon.
  • Cydweithio â'r tîm marchnata i ddatblygu a gweithredu cyfathrebu â chwsmeriaid.

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 2 - Eithaf da. Bydd deiliad y swydd yn gallu deall ystod o ohebiaeth sy'n gysylltiedig â'r swydd, cynnal sgwrs syml, ac ysgrifennu gohebiaeth weddol gywir yn Gymraeg. Bydd efallai angen troi at Saesneg i drafod materion cymhleth neu dechnegol.

Caiff y manylion llawn eu cynnwys yn y Disgrifiad Swydd.
 

Dyddiad cau: 18/06/2025