Golygydd Desg

£23,000 y flwyddyn, pro rata, llawn amser (rhai oriau gwaith hyblyg yn bosibl)

Swydd am gyfnod penodol tan 31 Rhagfyr 2024

Hybrid – bydd angen gweithio’n bennaf o Ben-y-bont ar Ogwr

Dyddiad cau: 10am ddydd Llun 17 Mehefin 2024    

Mae Seren Books mewn cyfnod o newid. Rydym yn datblygu fframwaith strategol a chynllun busnes newydd i arallgyfeirio ac ailddosbarthu penderfyniadau, yn seiliedig ar set glir o flaenoriaethau a gwerthoedd. Rydym yn anelu at hunaniaeth gryfach i’r cwmni, a chymuned ddarllenwyr ac awduron mwy amrywiol. 

CEFNDIR Y SWYDD

Rydym yn awyddus i benodi unigolyn i weithio gyda ni fel Golygydd Desg am gyfnod penodol o 6 mis, gan ddysgu am y fasnach lyfrau yng Nghymru ac uwchsgilio ym maes prawf-ddarllen a golygu copi drwy fentor ymroddedig a pherthnasol a chwrs hyfforddiant byr.

Bydd y Golygydd Desg yn cyfrannu at y prosesau comisiynu cyfrolau ffuglen a ffeithiol newydd, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u hymchwil i dueddiadau’r diwydiant a’r farchnad, a phroffiliau darllenwyr ac awduron targed Seren i gyd-baratoi Rhestr Gyhoeddiadau 2025/2026. Byddant hefyd yn cefnogi Seren i ddatblygu ei harferion mewnol gan gadw mewn cof gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysiant.

Dan gyfarwyddyd eu mentor, bydd y Golygydd Desg yn arwain cyllideb ar gyfer 4 teitl ffuglen a ffeithiol gan awduron sydd â phrofiad personol o hiliaeth, ableddiaeth a/neu dlodi i ddatblygu cynnwys newydd, diwylliannol amrywiol. Drwy drefn gomisiynu galwad agored ofalus, bydd y pedwar awdur llwyddiannus yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu cyflwyniadau yn gynigion ar gyfer eu cyhoeddi, i’w cyflwyno yng nghyfarfod Is-bwyllgor Cyhoeddiadau Seren ym mis Rhagfyr 2024.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd neu’r broses, mae croeso i chi gysylltu: seren@serenbooks.com

 

Dyddiad cau: 17/06/2024