Yn galw artistiaid a pherfformwyr cabaret lleol!

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn chwilio am artistiaid cabaret i gymryd rhan yn ei sioe cabaret Nadolig flynyddol a fydd yn cael ei chynnal yn y Stiwdio Weston rhwng 3–31 Rhagfyr 2024.

Rydyn ni’n chwilio am berfformwyr bwrlésg a syrcas/awyr-gampwyr, am berfformwyr cabaret aml-sgiliau, a brenhinoedd a breninesau drag sy’n gallu cydweithio o fewn tîm creadigol, rhannu syniadau a helpu gyda’r broses o ddyfeisio’r darn ymhellach, yn ogystal â pherfformio yn y cynhyrchiad.

Mae’r sioe eleni yn dathlu hunaniaethau a chariad traws a chwiar, felly rydyn ni’n awyddus iawn i gwrdd ag artistiaid a pherfformwyr o’r cymunedau traws a chwiar yn yr ardal leol.

Bydd y sioe eleni yn cael ei chyfarwyddo gan Juliette Manon.

 

Dyddiad cau: 11/08/2024