Rydym yn cynnal clyweliad cwmni cyffredinol i ehangu'r gronfa o ddawnswyr llawrydd y byddwn yn gweithio gyda nhw yn y dyfodol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn dawnswyr a chanddynt dechneg gref  mewn dawns gyfoes a sgiliau cyfathrebu, ynghyd â bod yn hyderus mewn byrfyfyrio a dyfeisio cydweithredol, i’n helpu i ddatblygu ein gwaith cynhyrchu newydd drwy gyfres o brosiectau wrth symud ymlaen. Rydym hefyd yn croesawu dawnswyr sydd â phrofiad mewn arddulliau dawns eraill y gallent eu cyfrannu i’r broses greadigol. Yn ogystal, rydyn ni’n chwilio am ddawnswyr sydd â sgiliau mewn ymarfer dawns gymunedol a/neu ddawns ym maes addysg, ochr yn ochr â’u profiad o berfformio, i’n helpu i gyflenwi ein prosiectau lleol a chenedlaethol ym maes dawns gymunedol a phrosiectau datblygu cynulleidfaoedd. Rydym hefyd yn awyddus i weithio gyda dawnswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. 

Yn fwy na dim, mae’n holl bwysig fod y dawnswyr yn frwdfrydig ac yn angerddol dros ddysgu a datblygu yn yr holl feysydd uchod!  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cytundebu fesul prosiect pan fydd gweithgaredd wedi'i drefnu, a chyllid wedi’i gadarnhau. Ymhlith y prosiectau mae hyfforddiant ac Ymchwil a Datblygu, cynhyrchu a theithio, prosiectau cymunedol ac addysgu. Mae gennym rai prosiectau cyffrous wedi'u hamserlennu eisoes ar gyfer 2024/25 ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu dawnswyr newydd i'r tîm ar gyfer y rhain!

Y prosiect cyntaf i dderbyn cadarnhad o gefnogaeth ariannol yw ‘Gyda’n Gilydd’, sef rhaglen datblygiad proffesiynol a dawns gymunedol. Cyflenwir y prosiect mewn partneriaeth â’n sefydliad cyswllt, Cymuned Artis Community, a bydd yn cynnwys ‘EXPLORE’, ein prosiect hyfforddiant datblygiad proffesiynol. Bydd hwn yn brosiect cyntaf gwych i fod yn gysylltiedig ag e fel aelod newydd o’r cwmni – hyfforddi gyda’n staff ni a staff Artis, a gweithio gyda’n cyfranogwyr cymunedol i greu a pherfformio gwaith gyda’n gilydd. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys wythnos o ymarferion Ymchwil a Datblygu sy’n craffu ar waith perfformio newydd ar gyfer y cwmni.

Mwy o wybodaeth, gan gynnwys dyddiadau: ransackdance.co.uk/swyddiacyfleoedd

Telir prosiectau ar gyfraddau ITC/uchod. Yn ogystal, telir costau llety a chostau teithio i alluogi dawnswyr o'r tu allan i dde Cymru i weithio yn ein canolfan ym Mhontypridd, ac i bob dawnsiwr tra ar brosiectau teithiol. 

Gwybodaeth am y Clyweliadau:
Dyddiad: Dydd Sadwrn Mai 25ain
Amser: 10yb – 5yp (10yb – 1.30yp clyweliad ymarferol – cynhelir cyfweliadau o 2yp)
Lleoliad: YMa, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TS
Mae'r clyweliad yn agored i bob rhyw.

I ymgeisio, anfonwch ebost at info@ransackdance.co.uk gyda'ch CV (gan gynnwys eich profiad perfformio a phrofiad addysgu) a dolen i ffilm ohonoch chi'n dawnsio. Gofynnir i chi gynnwys llythyr atodol byr ym mhrif gorff yr ebost, yn egluro pam yr hoffech chi weithio gyda Chwmni Dawns Ransack, a beth rydych chi'n teimlo y gallech ei gyfrannu i'r cwmni. Fel arall, gallwch ffilmio eich hun yn ateb y cwestiynau hyn a'i atodi i'r e-bost os yw'n well gennych.

​Dylech hefyd gynnwys gwybodaeth am unrhyw anghenion mynediad y bydd angen i ni eu darparu ar eich cyfer yn y clyweliad (e.e. dehonglydd IAP/BSL).
 
Rydym yn annog ceisiadau gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector dawns, gan gynnwys pobl o’r Mwyafrif Byd-eang, pobl sy'n niwroamrywiol, pobl F/fyddar, pobl anabl, a phobl o'r gymuned LGBTQ+.
 
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cais:
Dydd Iau 9fed o Fai 5yp

Dyddiad cau: 09/05/2024