Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfres o bum Ffair Grefftau Cyfoes Gogledd Cymru Dros-Dro i’w cynnal ym Mostyn yn Llandudno, Gogledd Cymru.

Bydd y ffeiriau dros dro yn cael eu cynnal yn ein Gofod Prosiect a mynedfa ein hadeilad, ac maen nhw’n gyfle gwych i artistiaid o bob rhan o’r DU gyflwyno gwaith i’w werthu ym Mostyn ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Sadwrn 13eg Gorffennaf 2024
  • Dydd Sadwrn 10fed Awst 2024
  • Dydd Sadwrn 12 Hydref 2024
  • Dydd Sadwrn Tachwedd 9fed 2024
  • Dydd Sadwrn Rhagfyr 14eg 2024

Os ydych chi’n artist, gwneuthurwr, ddylunydd, stiwdio, grŵp neu fusnes deunyddiau celf gallwch ddarganfod mwy am ein ffeiriaur, darllen y telerau ac amodau a gwneud cais am stondin.

Mae ein hadeilad yn gwbl hygyrch ac mae mynediad AM DDIM.

  • Lleoliad: Mostyn, 12 Vaughan Street, Llandudno, LL30 1AB
  • Agored i’r cyhoedd: 10.30yb- 4.30yp
  • £45 y stondin, fesul Ffair

I ymgeisi

  1. Cwblhewch y ffurflen o’n gwefan 
  2. Plîs anfonwch e-bost efo 4x delweddau uchel res / ansawdd da o’ch gwaith/nwyddau [dewisol – delwedd 1x o’r stondin flaenorol] i barry@mostyn.org wetransfer, dropbox ac ati a ffefrir.

Cyflwynwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau ac e-bostiwch y delweddau erbyn 5yp ddydd Llun 3ydd Mehefin 2024. Ni fydd ceisiadau heb ddelweddau yn cael eu prosesu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, plîs anfonwch e-bost at barry@mostyn.org

 

Dyddiad cau: 03/06/2024