Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Ffair Brintiau Gogledd Cymru yn dychwelyd i Mostyn yn Llandudno, Gogledd Cymru, ar ddydd Sadwrn y 7fed o Fehefin 2025.
Bydd Ffair Brintiau Gogledd Cymru yn cael ei chynnal dros ddwy o’n horielau a mynedfa ein hadeilad, ac mae’n gyfle gwych i wneuthurwyr printiau o bob rhan o’r DU gyflwyno gwaith i’w werthu ym Mostyn.
Os ydych chi’n artist, gwneuthurwr, ddylunydd, stiwdio, grŵp neu fusnes deunyddiau celf gallwch ddarganfod mwy am ein ffeiriaur, darllen y telerau ac amodau a gwneud cais am stondin.
Mae ein hadeilad yn gwbl hygyrch ac mae mynediad AM DDIM.
- Lleoliad: Mostyn, 12 Vaughan Street, Llandudno, LL30 1AB
- Agored i’r cyhoedd: 10.30yb- 4.30yp
- £95 y stondin
I ymgeisi
- Cwblhewch y ffurflen o’n gwefan yma
- Plîs anfonwch e-bost efo 4x delweddau uchel res / ansawdd da o’ch gwaith/nwyddau [dewisol – delwedd 1x o’r stondin flaenorol] i barry@mostyn.org wetransfer, dropbox ac ati a ffefrir.
Cyflwynwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau ac e-bostiwch y delweddau erbyn 5yn dydd Iau yr 8fed o Fai. Ni fydd ceisiadau heb ddelweddau yn cael eu prosesu.