Rydym yn bwriadu cysylltu â phedwar artist a/neu grŵp i gymryd rhan mewn egin gomisiwn â chyllid gwerth £2,000 ar gyfer cyfnod preswyl o bythefnos a pherfformiad noson o'r newydd.
A ydych chi...
-
wedi'ch lleoli yng Nghaerdydd?
-
yn dymuno archwilio syniadau newydd sy'n amserol, yn gyffrous ac yn gydweithredol
-
yn awyddus i brofi a rhannu eich syniadau o flaen cynulleidfa?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Mae'r prosiect hwn yn agored i weithwyr llawrydd ar unrhyw adeg yn eu gyrfa.
Dyddiad cau: 10am ddydd Iau 4 Gorffennaf
Wedi'i chefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd
Dyddiad cau: 04/07/2024