Y syniad

Fuoch chi ’rioed yn adrodd stori a oedd yn swnio yn ddigon diniwed i ddechrau ond fel iddo fynd ymlaen daeth yn fwy rhyfeddol?

Yn yr arddangosfa yma, ein nod yw dod ag artistiaid a gwneuthurwyr sydd wedi ei hysbrydoli gan storïau a chwedlau at ei gilydd. Gall rhain fod yn storïau Cymreig neu rhai o diroedd pellach - unrhyw beth sydd yn dal y dychymyg; sy’n berffaith rhyfedd.

Y cyfle

A ydych chi’n artist neu wneuthurwr o Gymru, wedi eich hysbrydoli gan storïau neu chwedlau? Hoffech chi gyfle i arddangos a gwerthu'ch gwaith?

Arddangosfa wedi ei guradu fydd 'Yn berffaith rhyfedd / Perfectly strange...', yn cynnwys gwaith gan artistiaid a wahoddwyd, ynghyd ag artistiaid a gwneuthurwyr dethol o'r galwad agored yma. Gan gynnwys gwaith gan artistiaid newydd a sefydledig; cyfle i fwynhau a buddsoddi yn ein cymuned greadigol. Mi fydd rhan fwyaf o’r gwaith ar werth ac ar gael i’w cymryd ar y diwrnod. Ynghyd â’r arddangosfa fe fydd rhaglen o berfformiadau, gweithdai a gweithgareddau, gan greu lle diogel i fwynhau ymarfer creadigol; i bawb. 

Dyddiadau arddangosfa: 30 Tachwedd 2024 - 11 Ionawr 2025

Sut i ymgeisio?

Rydym ni’n croesawu ceisiadau o bob disgyblaeth - yr unig ofyniad yw bod eich gwaith naill ai wedi ei ysbrydoli gan storïau neu chwedlau. Rydym ni’n annog artistiaid a gwneuthurwyr o bob lefel o’u gyrfa i ymgeisio.

Mi fydd gwaith yn cael ei werthu ar sylfaen comisiwn o 40% gyda VAT. Byddwn ni'n delio gyda’r arddangos a’r gwerthu, ac, ar ddiwedd yr arddangosfa, y pacio a’r taliad i chi.

I wneud cais:

  • Datganiad byr amdanoch chi a’ch gwaith, gan gynnwys ychydig frawddegau am y storïau neu’r chwedlau sydd yn eich hysbrydoli
  • Casgliad o ddelweddau
  • Rhestr Pris (os oes gennych chi un)

Dyddiad cau am geisiadau: 8yh, Dydd Sul 13 Hydref 2024

Anfonwch eich cais i: apply@missiongallery.co.uk gan ddefnyddio ‘Yn berffaith rhyfedd / Perfectly strange’ yn y llinell pwnc.

Nodiadau ychwanegol:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch a: Rhian Wyn Stone | rhian@missiongallery.uk

Os yn llwyddiannus gyda'ch cais, rhaid i'r gwaith fod wedi cyrraedd Oriel Mission erbyn 16 Tachwedd 2024.
 

Dyddiad cau: 13/10/2024