Mae ein galwad agored blynyddol y Gaeaf i artistiaid sy'n byw yn Ne Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2023. Mae’n agored i artistiaid ar unrhyw gam yn eu gyrfa, boed sefydledig, newydd neu awyddus, mae’n gyfle i gyflwyno’ch gwaith i gynulleidfaoedd newydd.
Rydym yn chwilio am waith 2-D mewn unrhyw gyfrwng sy'n barod i'w harddangos; ffotograffiaeth, print, paentio, darlunio, tecstil, cerfwedd, neu gyfrwng cymysg. Gall waith fod hyd at 150cm mewn unrhyw gyfeiriad.
Am rhagor o wybodaeth am sut i ymgeisio gwelwch y cyfeiriad isod
Dyddiad cau: 01/11/2023