Mae’n bleser gan Urdd Gwneuthurwyr Cymru gyflwyno’r cyfle hwn i wneuthurwyr ym mlynyddoedd cynnar eu hymarfer artistig. Arddangosfa agored wedi’i ddethol o grefft gyfoes a chelfyddyd gymhwysol gan wneuthurwyr sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac sydd wedi graddio o fewn y tair mlynedd diwethaf. 

Fe fydd yr arddangosfa yn cael ei dangos yn oriel Urdd Gwneuthurwyr Cymru, Crefft yn y Bae o 22 Mehefin i 28 Gorffennaf 2024

Rydym yn chwilio am: 

• Wneuthurwyr sydd â unigoliaeth ac uniondeb artistig

• Synnwyr dylunio da

• Sgiliau crefft da wrth weithio gyda deunyddiau a ddewiswyd.

Arddangosfa i’w chynnal yn oriel Urdd Gwneuthurwyr Cymru, Crefft yn y Bae 22 Mehefin – 28 Gorffennaf 2024

 Bydd Gwobr Dewis y Bobl yn cael ei chyflwyno ar ddiwedd yr arddangosfa. 

 

Dyddiad cau: 28/03/2024