‘Rydym yn edrych am 6 ymarferydd creadigol o liw i ymuno â ni ar raglen fentora 6-mis: Lluosogrwydd. Nod y rhaglen yw creu gofod cefnogol i artistiaid i archwilio natur amlochrog hunaniaeth a pherthyn gan roi cyfleoedd i ymgysylltu gyda chymuned o bobl greadigol amrywiol, y cyfle i ddatblygu’ch ymarfer artistig a darparu platfform ar gyfer trafodaeth ehangach o’ch gwaith trwy arddangosfa sylweddol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Ynglŷn â’r prosiect
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a’r artist Jasmine Violet yn gweithio mewn partneriaeth fel rhan o brosiect ehangach yn dwyn y teitl Persbectif(au), ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, i sicrhau newid sylweddol yn y modd y mae’r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas.
‘Rydym wedi creu’r cyfleoedd hyn ar gyfer artistiaid o liw sy’n gweithio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru gan ein bod yn dymuno dathlu’r cymunedau amrywiol sy’n ffurfio Cymru ar hyn o bryd, gan roi llwyfan i adrodd straeon nas mynegwyd a chreu ymatebion artistig sy’n cynrychioli croestoriad, lluosogrwydd, a bodoli rhwng tiroedd ac hunaniaeth. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar bwysigrwydd a pherthnasedd pobl o liw i’r gymuned Gymreig a’r effaith y maent wedi cael ar Gymru’r gorffennol a’r presennol.
Trwy ddarparu platfform i arddangos y gwaith creadigol a gynhyrchir fel rhan o’r prosiect, anelwn at greu trafodaeth gyda’r gymuned ehangach yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt trwy raglen gyhoeddus o sgyrsiau a gweithdai. Mae’r prosiect yn ceisio herio ffyrdd cyfredol o feddwl trwy ymgysylltu â chymunedau i archwilio’r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth trwy lens wrth-hiliaeth a dad-drefedigaethol.