Mae Theatr Clwyd yn chwilio am gyfarwyddwr ar ddechrau gyrfa sy'n llawn cyffro am Theatr Gymunedol.
Mae rôl y cyfarwyddwr cynorthwyol yn un allweddol o fewn y tîm creadigol. Gan gefnogi’r Cyfarwyddwr (Emyr John) yn yr ystafell, mae’r profiad ymarferol hwn yn un llawn amser a fydd hefyd yn cynnwys mynd ar daith leol gyda'r cynhyrchiad.
Sylwch fod hon yn swydd lawrydd, am dymor penodol, ac mae'n agored i bobl sydd wedi'u geni, eu magu, neu sy'n byw yng Nghymru.
Mae’r dyletswyddau yn cynnwys:
- Gweithio yn yr ystafell ymarfer a chymryd nodiadau yn ystod y broses ymarfer
- Ymchwilio pynciau sy'n ymwneud â'r system gyfiawnder ieuenctid cyn ac yn ystod yr ymarferion
- Cynorthwyo'r tîm rheoli llwyfan a'r cyfarwyddwr gyda'r amserlennu ar draws y broses
- Cynorthwyo gyda golygu’r sgript
- Cyfarwyddwr staff ar daith
- Dyletswyddau eraill fel sy'n cael eu neilltuo
Am Justice in a Day 2024
Gan weithio mewn partneriaeth â PACT (Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Heddlu Gogledd Cymru), Heddlu Gogledd Cymru, Llysoedd EM, Ynadon a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, mae Justice in a Day yn berfformiad rhyngweithiol a gweithdy sydd wedi’i dargedu at ddisgyblion ym mlwyddyn 8/9 sydd mewn perygl o ddod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol.
Mae Justice in a Day yn annog pobl ifanc i feddwl yn ofalus am eu dewisiadau, am ganlyniadau dewisiadau, a sut i osgoi ymwneud â’r System Cyfiawnder Troseddol drwy ganolbwyntio ar yr effaith y gall gweithred droseddol ei chael ar droseddwr, dioddefwr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.
Dyddiadau pwysig: Medi 30ain - Hydref 25
Ymarferion yn dechrau: Dydd Llun 30 Medi 2024 yn yr Wyddgrug, Gogledd Cymru
Taith:
- Conwy 14-18 Hydref
- Wrecsam 21-25 Hydref