Rydym yn falch o gyhoeddi galwad agored arall mewn partneriaeth â Gŵyl Arall i feirdd Cymraeg o ystod amrywiol o gefndiroedd wneud cais i gymryd rhan yn ail brosiect EFFEA a fydd yn archwilio'r thema ymfudo trwy gydweithio â'r bardd Bosnia-Croateg Marija Dejanović.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Mai 26ain, 2024

Caiff y prosiect ei gyd-ariannu gan Gronfa Gwyliau Ewrop ar gyfer Artistiaid Newydd a'i nod yw rhyngwladoli gyrfaoedd artistiaid sy'n dod i'r amlwg trwy gydweithrediad rhwng gwyliau. Rydym yn chwilio am un bardd o Gymru i gymryd rhan mewn cydweithrediad digidol amlieithog gyda thâl ac i gyflwyno eu gwaith gyda Marija yng Ngŵyl Arall, Caernarfon.

Disgrifiad o'r Prosiect

Yn ystod gweithdai rhithwir 2-3 bydd yr artistiaid sy'n cymryd rhan yn trafod y pwnc mudo mewn perthynas â'u gwaith ac yn myfyrio ar safbwyntiau ac agweddau lleol cyn creu gwaith newydd ar y cyd dros gyfnod y gweithdai. Marija Dejanović  yw'r prif artist ac yng Nghymru bydd hi a'r artist lleol dethol yn cyflwyno'r gwaith yng Ngŵyl Arall ym mis Gorffennaf, gan gynnwys cyfieithiadau o gerddi Marija i'r Gymraeg. Bydd y prosiect hefyd yn gweld Marjia yn cydweithio ag artistiaid Groeg a Tsiec ac yn cyflwyno ei gwaith yng Ngŵyl Farddoniaeth Thessalian yn Larissa, Gwlad Groeg ym mis Awst ac yn olaf, yn dilyn adfywiad ym Mhrâg yng ngŵyl Den Poezie ym mis Tachwedd 2024.

Dyddiad cau: 26/05/2024