CRIW CELF CEREDIGION
[YNG NGHANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH]
CRYNODEB O’R PROSIECT
Prosiect yw Criw Celf ar gyfer artistiaid ifanc brwdfrydig a thalentog rhwng 9 a 18 oed. Mae’n rhan o gynllun cenedlaethol i feithrin talent ifanc yn y Celfyddydau Gweledol.
Mae’r gweithdai creadigol yn anelu at ehangu gwybodaeth y bobl ifanc am gelf, meistroli technegau newydd, arbrofi, magu hyder a datblygu eu hiaith weledol eu hunain.
Anogir y sawl sy’n cymryd rhan i ddangos y gwaith celf a grëir mewn sesiynau’r Criw Celf i’w hathrawon celf. O ganlyniad, cynhwysir rhai gweithiau celf mewn portffolios arholiad.
Mae ‘na bosibilrwydd y bydd gwaith a gynhyrchir gan y bobl ifanc yn cael ei arddangos mewn arddangosfa arbennig yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Noddir y prosiect yn ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac fe’i cefnogir gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
CRYNODEB O’R RÔL
‘Rydym yn edrych am gydlynydd llawrydd profiadol ar gyfer Criw Celf Ceredigion sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf a chefndir profedig mewn cydlynu prosiectau celf cymunedol a gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
- Cydlynu cyflwyno gweithdai Criw Celf ar gyfer artistiaid ifanc 9-18 oed.
- Cydgysylltu ag artistiaid i ddatblygu a chyflwyno gweithdai celf diddorol ac addysgol.
- Sicrhau bod gweithdai yn cydymffurfio â gweledigaeth artistig Criw Celf ac yn cydfynd â’r rhaglen arddangosfeydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
- Cynnal amgylchedd diogel a phroffesiynol, gan gadw at ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch.
- Cynhyrchu asesiadau risg yn unol â pholisïau Iechyd a Diogelwch y Ganolfan.
- Cynnal polisïau a gweithdrefnau diogelu Prifysgol Aberystwyth.
GOFYNION
- Profiad mewn cydlynu ac adrodd ar brosiectau celf cymunedol.
- Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf.
- Y gallu i gydweithio gydag artistiaid, addysgwyr a thîm Canolfan y Celfyddydau.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb yn y celfyddydau.
- Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, neu ddealltwriaeth gadarn o natur ddwyieithog ein gweithle.
‘Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr sy’n cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd, gan gynnwys pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl LHDTQI+, a’r rhai sy’n ceisio datblygu gyrfaoedd yn y Celfyddydau nad ydynt wedi dilyn llwybrau addysgol traddodiadol.
SUT I WNEUD CAIS
Dylid e-bostio mynegiadau o ddiddordeb mewn rôl y Cydlynydd at amj@aber.ac.uk erbyn 6pm ar Ddydd Mawrth 25ain Mehefin. Gofynnir i ymgeiswyr gynnwys llythyr eglurhaol, CV, a dolen i wefannau gydag enghreifftiau o’u gwaith.
Gosodir ymgeiswyr ar restr fer ac fe’u gwahoddir i gyfweliad gyda’n Rheolwraig a Chydlynydd Dysgu Creadigol - dyddiad i’w gadarnhau.
- Ffi’r Cydlynydd - £250 y diwrnod, am gyfanswm o 20 diwrnod
- Dyddiadau’r Gweithdai - Dydd Llun 22ain - Dydd Sadwrn 27ain Gorffennaf 2024 a Dydd Llun 21ain - Dydd Sadwrn 26ain Gorffennaf 2025
- Dyddiad cau am fynegiadau o ddiddordeb - 6pm, Nos Fawrth 25ain Mehefin 2024
CYSWLLT
Cyfeiriwch ymholiadau os gwelwch yn dda at Amanda Trubshaw, Rheolwraig Dysgu Creadigol:
amj@aber.ac.uk 01970 621609
forthcoming 2024 exhibitions at Aberystwyth Arts Centre
SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32