Galwad Agored am Ddawnswyr ar gyfer ‘EXPLORE on Tour’, Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus, mewn partneriaeth gyda Dance Blast, Y Fenni.

Ar ôl i ni ddatblygu’n rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus, ‘Explore’, gyda Chymuned Artis yn RhCT, rydyn ni’n awr yn cychwyn ar daith i ehangu’r prosiect i’n galluogi i weithio gyda sefydliadau ychwanegol ledled Cymru drwy gyfrwng rhaglen ‘Explore on Tour’ newydd!

Yr hydref hwn byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Dance Blast yn Y Fenni i archwilio sut y gall y rhaglen gynnal artistiaid llawrydd o sir Fynwy, rhai sy’n gweithio yno, neu sydd â diddordeb mewn gweithio yno.

Mae’r prosiect yn cynnwys rhannu sgiliau a hyfforddiant ar draws ymarferion dawnsio cymunedol a pherfformiadau dawns, gan hyfforddi ein staff ni a staff Dance Blast i’w galluogi i weithio ar draws y ddwy ddisgyblaeth yma, ac archwilio sut y gallant gyd-blethu ar draws ein gwaith. Fel yn achos ein prosiect wedi’i leoli yn RhCT, byddwn hefyd yn gwahodd nifer o artistiaid annibynnol i ymuno yn y rhaglen hon – rhai a fyddai’n hoffi cyfle i uwch-sgilio yn y meysydd hyn a dysgu rhagor am waith Ransack a Dance Blast. Mae ceisiadau’n awr ar agor ar gyfer artistiaid dawns a fyddai’n hoffi ymuno â ni yn y rhaglen hyfforddi.

 

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn y cyfleoedd hyfforddi canlynol:

– Mynychu dyddiau hyfforddi ymarfer dawnsio cymunedol ‘EXPLORE’

– Cyfleoedd cysgodi â thâl ar draws rhaglen dawnsio cymunedol a dawnsio awyrol Dance Blast yn Y Fenni/sir Fynwy.

– Ymuno â Chwmni Dawns Ransack yn ein hwythnos ymarfer agored ymchwil a datblygu (R&D), i archwilio syniadau coreograffig ar gyfer gwaith cynhyrchu newydd.

– Ymuno â dosbarth cwmni proffesiynol gyda Chwmni Dawns Ransack bob dydd yn ystod yr wythnos R&D.

– Cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau mentora ac adborth gyda’n Cyfarwyddwyr Artistig  ni a/neu rhai Dance Blast.

– Cyfle i berfformio: rhannu’r gwaith R&D a grëwyd drwy gyfrwng y prosiect yn ein digwyddiad i ddathlu ‘EXPLORE on Tour’.



Mae ‘EXPLORE on Tour’ yn rhaglen hyfforddi â thâl, a thelir y ffioedd hyfforddi canlynol i bob artist sy’n cymryd rhan:

  • £25 yr awr (cysgodi)
  • £160 y dydd (dyddiau hyfforddi a dydd y perfformiad)
  • Chyfradd wythnosol o £575 (R&D).

Pryd?

Bydd angen i artistiaid ymrwymo i’r CYFAN o’r dyddiadau canlynol:

Dyddiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) ar ymarfer dawnsio cymunedol:

  • Dydd Iau 5 Medi, 10am–5pm
  • Dydd Sul 6 Hydref, 2pm–8pm
  • Dydd Iau 19 Rhagfyr, 10am–5pm

Wythnos ymarfer R&D: 

  • Dydd Iau 28 Hydref hyd ddydd Gwener 1 Tachwedd, 10am hyd 5pm bob dydd

Digwyddiad Rhannu Perfformiad Prosiect:

  • Dydd Sul 3 Tachwedd

Bydd angen i artistiaid fod ar gael yn ystod y dydd a’r fin nos ar gyfer yr ymarferion a’r sioe. (Rhennir yr amserlen lawn ag artistiaid ar ôl iddynt gael eu derbyn ar y rhaglen.)

  • Bydd sesiynau cysgodi a mentora’n cael eu cynnal drwy gydol y prosiect (Medi hyd Rhagfyr) a gellir eu trefnu gyda phob artist unigol i gyd-fynd â rhaglen dosbarth dawnsio Dance Blast, ac yn ôl argaeledd ac anghenion hyfforddi.

Ble?

Bydd y gweithgaredd yn cael ei gynnal yn:

Dance Blast

3-5 Pen-y-Pound

Y Fenni

NP7 5UD

(gyda pheth gweithgaredd cysgodi yn ystod sesiynau allanol Dance Blast mewn lleoliadau ar draws Y Fenni/sir Fynwy.)

Sut i Ymgeisio:

Mae EXPLORE yn rhaglen hyfforddi ar gyfer oedolion (oedran 18+) ac yn agored i ddawnswyr proffesiynol,  ymarferwyr theatr gorfforol, ac athrawon dawnsio.

Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn y sector dawns, yn cynnwys rhai o’r mwyafrif byd-eang, pobl niwroamrywiol, B/byddar ac  anabl, a phobl o’r gymuned LGBTQ+.

I gael ffurflen gais, ebostiwch: info@ransackdance.co.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 31 Gorffennaf 5yp

Caiff ymgeiswyr ar y rhestr fer eu cyfweld (ar Zoom) yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn  ddydd Llun 5 Awst.

​Byddem yn rhoi croeso arbennig i geisiadau gan artistiaid sy’n byw a/neu’n gweithio yn sir Fynwy, neu artistiaid o ardaloedd cyfagos (lle bo modd teithio i’r Fenni o fewn amser rhesymol) sydd â diddordeb mewn gweithio yn y maes hwn yn y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth am ein partneriaid prosiect, Dance Blast, ewch i:

dance-blast.org

Dyddiad cau: 31/07/2024