Galwad Agored am Artistiaid Dawns sydd wedi’u lleoli yng Nghymru 

Manylion am y Rôl

Rydw i’n chwilio am 7 o ddawnswyr o ystod eang o wahanol gefndiroedd a disgyblaethau i ddod at ei gilydd am 5 diwrnod ym mis Ionawr i edrych i mewn i’r posibilrwydd o weithio gyda’n gilydd. 

Bydd y broses 5-diwrnod hon yn gyfle i mi ddod i wybod pa artistiaid dawns wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n rhannu fy ngwerthoedd, fy moeseg gwaith, a’m diddordeb mewn theatr ddawns. Mae hefyd yn rhoi amser i bob artist dawns ddod yn gyfarwydd â mi fel coreograffydd a chyfarwyddwr ac i weld a fydden nhw’n hoffi gwneud mwy o waith gyda mi. 

Mynediad i’r Anabl

Os ydych chi’n anabl, mae yna gyllideb mynediad ychwanegol i helpu gyda chostau mynediad i’ch galluogi i gymryd rhan yn y prosiect hwn. 

Bwriad yr arian hwn yw helpu gyda mynediad i’r anabl. Fodd bynnag, byddaf yn gwneud fy ngorau i helpu gydag anghenion mynediad am resymau nad ydynt yn gysylltiedig ag anabledd, e.e. cyfrifoldebau gofalu. 

Faint o dâl fydda i’n ei dderbyn am roi fy amser?

Bydd pob artist yn derbyn ffi o £550.00 am 5 diwrnod o 5 awr yr un. 

Am bwy rydych chi’n chwilio?

Unrhyw un sy’n uniaethu fel artist dawns/symudiadau wedi’u lleoli yng Nghymru.

O unrhyw gefndir sy’n cynnwys gwaith symudiadau. 

Hunan-addysgedig neu wedi derbyn hyfforddiant proffesiynol. 

Ac o unrhyw rywedd. 

Ym mhob rhan o ’ngwaith, rydw i’n ceisio sicrhau bod o leiaf 50% o’r cast a’r bobl greadigol yn dod o gefndir y Mwyafrif Byd-eang. 

 

Ymhle bydd y gwaith hwn yn digwydd?

Ballet Cymru Uned 1, Ystad Ddiwydiannol Wern, Rogerstone, Casnewydd, NP10 9FQ. Mae eu stiwdios nhw yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn; mae yna gegin y gallwn ei defnyddio, ac mae parcio’n rhad ac am ddim ar y safle. 

 

Oes modd i chi dalu fy nghostau teithio a llety os nad ydw i’n byw yn agos at dde Cymru?

Yn anffodus, does dim arian ar gael i dalu costau teithio a llety. 

 

Beth fydd patrwm yr wythnos?

Dyddiadau: Ionawr 8–12 2024; 10am–3pm

Amserlen: 

Dosbarth Cwmni: 10:00–10:45 (Amryw o arddulliau dawns)

Egwyl: 10:45–11:00

*Archwilio: 11:00–3:00

Bydd yr egwyl cinio yn amrywio – naill ai 12:30–1:30 neu 1:00–2:00 

*Drwy gydol yr wythnos byddwn yn edrych ar ddisgrifiadau sain integredig, prosesau creu cydweithredol, gwaith byrfyfyr, a gwaith testun, a bydd artistiaid yn cael cyfleoedd i hwyluso dosbarth cynhesu’r corff. 

 

Sut i Gyflwyno Cais

  • Anfonwch eich CV mwyaf diweddar, os gwelwch yn dda NEU Anfonwch restr o swyddi diweddar, perthnasol  (Os nad oes gennych chi CV)

 

  • Hyd at 3 Dolen yn eich dangos chi’n dawnsio neu’n perfformio. (Gwaith byrfyfyr a/neu ddeunydd wedi’i goreograffu)

 

  • 100 gair/1-munud yn ymateb i’r cwestiwn: Pam mae gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda mi?

 

Amserlen Cyflwyno Cais 

Ar agor: Hydref 2

Dyddiad cau: Rhagfyr 3

Penderfyniad: Rhagfyr 18

 

Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn eich cais. Mae croeso i chi gysylltu â mi trwy ebost ar krystalslowe.contact@gmail.com os oes arnoch angen cymorth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon. 

Dyddiad cau: 03/12/2023