Yn galw ar:

Artistiaid newydd - sy'n chwilio am leoliad ar gyfer eu harddangosfa gyntaf.

Artistiaid sefydledig - sy’n chwilio am gyfle i arddangos gwaith newydd.

Cyn-artistiaid - sydd eisiau ailgyflwyno eu hunain.

---

Ydych chi wedi mynd â’ch gwaith i gyfeiriad gwahanol neu wedi arbrofi a deunyddiau a chyd-destunau newydd? Neu, ydych chi’n ailddarganfod eich cariad at grefft roeddech chi wedi anghofio amdani?

Arddangosfa wedi ei churadu yw (Ail)ddarganfod fi | (Re)discovering me, a fydd yn arddangos gwaith yr artistiaid a’r crefftwyr a fydd yn cael eu dewis o’n galwad agored. Bydd yr arddangosfa yn dangos gwaith artistiaid a chrefftwyr o bob rhan o’u gyrfa, ac mae’n gyfle gwerth chweil i fwynhau a buddsoddi yn ein cymuned greadigol. Bydd yr holl waith yn yr arddangosfa ar werth ac ar gael i'r prynwyr fynd adref gyda nhw ar y diwrnod.  

Dyddiadau’r arddangosfa: 13 Medi – 25 Hydref 2025

---

Sut mae gwneud cais?

Ydych chi’n artist neu’n grefftwr yng Nghymru? Ydych chi eisiau arddangos a gwerthu eich gwaith?

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob maes. Rydym yn annog artistiaid a chrefftwyr o bob cam o’u gyrfa i wneud cais.

Bydd gwaith yn cael eu gwerthu ar sail comisiwn 40% a TAW. 

Byddwn ni’n gosod ac yn gwerthu’r gwaith ar eich rhan, ac ar ôl i'r arddangosfa ddod i ben, byddwn ni’n cadw’r gwaith yn ofalus ac yn trefnu eich bod yn cael eich talu am unrhyw waith sydd wedi ei werthu.

---

I ymgeisio:

Datganiad byr am y gwaith yn egluro a ydych chi’n artist newydd sy’n chwilio am leoliad i’w harddangosfa gyntaf, yn artist sefydledig neu’n rhywun sydd eisiau ailgyflwyno eu hun. 

Lluniau o’ch gwaith.

Rhestr brisiau (os oes gennych chi un).

---

Dyddiad cau am geisiadau: 8yh, Dydd Gwener 1af Awst 2025

Anfonwch eich cais i:

apply@missiongallery.co.uk

Gan ddefnyddio ‘(Ail)ddarganfod fi | (Re)discovering me’ yn y llinell bwnc.

---

Nodiadau ychwanegol:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch a:

Rhian Wyn Stone | rhian@missiongallery.uk

Os yn llwyddiannus gyda'ch cais, rhaid i'r gwaith fod wedi cyrraedd Oriel Mission erbyn 5ed Medi 2025.

 

 

 

 

 

 

Dyddiad cau: 01/08/2025