AM ‘The Gallery’
Wedi’i chynhyrchu gan Artichoke a’i llunio ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Creadigol Martin Firrell, mae’r Oriel yn fath newydd o sefydliad diwylliannol heb waliau sy’n herio modelau traddodiadol o wylio celf.
Bob tymor rydym yn gwahodd artistiaid i ymateb i un o bynciau neu gwestiynau pwysicaf ein hoes, gyda’r nod o ennyn trafodaeth ystyrlon, a dechrau sgwrs genedlaethol.
Bydd Tymor 4 The Gallery yn mynd yn fyw ym mis Mai 2024, pan fydd gwaith 10 artist dethol yn cael ei arddangos mewn mannau cyhoeddus ar draws pedair gwlad Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Gyda chefnogaeth y diwydiant Allan o'r Cartref*, mae The Gallery yn cymryd drosodd miloedd o hysbysfyrddau, sgriniau digidol a llochesi bysiau a gedwir yn draddodiadol ar gyfer hysbysebu. Hyd yma, mae gweithiau sy’n cael eu harddangos fel rhan o The Gallery wedi cael eu gwylio dros 164 miliwn o weithiau gan bobl ar strydoedd y DU.
Fel rhan o archif sy'n esblygu ac yn ehangu, mae gweithiau celf a ddewiswyd ar gyfer The Gallery hefyd yn cael eu harddangos yn barhaol ar-lein yn thegallery.org.uk.
*Mae'r term Allan o'r Cartref yn cyfeirio at unrhyw gyfrwng hysbysebu gweledol a geir y tu allan i'r cartref, gan gynnwys hysbysfyrddau ar y stryd, sgriniau digidol, llochesi bysiau a gorsafoedd trên.
YR ALWAD AGORED
Rydym yn gwahodd artistiaid 18 oed a throsodd, o bedwar ban byd, i wneud cais i gyflwyno gwaith celf effaith uchel ar gyfer gofod cyhoeddus, fel rhan o brosiect mawr Artichoke - The Gallery.
THEMA
Thema Tymor 4 The Gallery yw 'MENYW GO IAWN'.
Datganiad curadurol: Mae Tymor 4 The Gallery yn gwahodd artistiaid i wneud gwaith mewn ymateb i'r thema: MENYW GO IAWN.
Beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn fenyw? Sut mae menywod yn gweld eu hunain - mewn perthynas â'i gilydd ac â gweddill y byd?
Sut mae menyw yn penderfynu pa fath o fenyw yw hi? Pwy sy'n edrych? Pwy sy'n beirniadu? Pa fewnwelediad y gallai profiad menywod trawsryweddol ei ddarparu?
Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw artist sy'n uniaethu mewn unrhyw ffordd, os ydynt yn teimlo bod ganddynt fewnwelediad artistig i'w rannu.
BETH RYDYCH CHI'N EI GAEL
Bydd artistiaid yn cael eu cefnogi i ddatblygu ac addasu eu gwaith ar gyfer cyflwyniad ar hysbysfyrddau hysbysebu, llochesi bysiau a thebyg. Byddant hefyd yn derbyn mentora a chyngor parhaus yn ystod y broses.
Mae pob artist yn derbyn:
- Ffi o £2,000
- Cefnogaeth gan y Cyfarwyddwr Creadigol Martin Firrell
- Cefnogaeth gan Guradur ein harddangosfa, Bakul Patki
- Llwyfan rhyngwladol i arddangos gwaith gan gynnwys trwy'r wefan bwrpasol yn thegallery.org.uk
- Gwasanaethau dylunydd i fformatio’r gwaith celf ar gyfer safleoedd digidol (a safleoedd papur a gludo os yw’n berthnasol)
- Costau cynhyrchu, gosod, a phrydlesu'r mannau hysbysebu
- Dogfennaeth ffotograffig ddethol o'r gwaith celf a arddangosir ar fannau hysbysebu
- Cyfarfodydd ar-lein wedi'u hamserlennu gyda chyd-artistiaid a thîm sy'n cyfrannu
- Cymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein ynghylch gwneud celf i'r cyhoedd
- Gwahoddiad i lansio'r arddangosfa ym Mai 2024. Os yw wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig, bydd costau teithio rhesymol a llety un noson yn cael eu cynnwys. Ar gyfer artistiaid sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig, cynhwysir costau teithio o £200 tuag at unrhyw/holl gostau teithio, gan gynnwys ffioedd fisa a llety un noson.
- I'r rhai sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig, bydd Artichoke yn archwilio dulliau cymorth ychwanegol tuag at gostau teithio lle bo modd (e.e. gan Lysgenadaethau, Ymddiriedolaethau a Sefydliadau).
CYMHWYSEDD
Mae'r alwad yn agored i bob ymarferwr 18+ oed, sy'n gweithio ar unrhyw lefel, gan gynnwys myfyrwyr. Gall artistiaid fod wedi'u lleoli unrhyw le yn y byd. Mae'r fenter hon yn bodoli i hyrwyddo gweithiau celf arloesol gan artistiaid ar unrhyw gam o'u hymarfer.
Mae ceisiadau cydweithredol fel grŵp neu gasgliad yn gymwys (mae’r ffi yn parhau i fod yn £2,000).
PARATOI A LANLWYTHO'CH CAIS CELF
Gellir cwblhau ceisiadau ar-lein: https://thegallery.org.uk/season-4-open-call/
Nid oes ffi cofrestru i wneud cais.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gwaith celf yw dydd Sul 4 Chwefror 2024