Bwrdd Ymddiriedolwyr g39: Cyd-Gadeirydd
Mae g39 yn chwilio i benodi Cyd-Gadeirydd ar gyfer eu Bwrdd o Ymddiriedolwyr. Dyma gyfle gwych i helpu i lywio g39 tuag at y dyfodol, mewn cydweithrediad agos â thîm g39 a chyd-Ymddiriedolwyr.
Mae g39 yn gartref i oriel a gaiff ei rhedeg gan artistiaid yn ogystal â chymuned greadigol ar gyfer y celfyddydau gweledol – y mwyaf o’i bath yng Nghymru. Er ei bod wedi’i sefydlu yng Nghaerdydd, mae g39 yn gweithio gydag artistiaid ledled Cymru. Daeth yn elusen yn 2019 gan weithio fel pont rhwng cymunedau, y cyhoedd ac artistiaid.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n awyddus i ymgysylltu â’n gwaith. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gennych os oes gennych brofiad o: ddulliau Adnoddau Dynol sy’n canolbwyntio ar bobl, rheoli mewn sefydliadau yn y sector diwylliannol, cyllid elusennol a/neu godi arian, cynhyrchu celf gweledol cyfoes.
Os ydych yn meddu ar y canlynol:
- Ymrwymiad i g39, eu cenhadaeth, eu gwaith a’u pobl
- Brwdfrydedd i ymgysylltu â gwaith y sefydliad
- Gweledigaeth strategol
- Sgiliau cydweithio a chyfathrebu cryf
- Ac os ydych yn agored i ffurfiau anhierarchaidd o arweinyddiaeth
Tâl: Gan fod g39 yn elusen gofrestredig, mae rôl y Cyd-Gadeirydd yn wirfoddol ac nid oes tâl ariannol. Bydd costau teithio yn cael eu had-dalu.
I gael manylion llawn y rôl a gwybodaeth am sut i wneud cais, lawrlwythwch y Pecyn Cais