Trosolwg/Amcan
Mae Abertawe Greadigol yn rhwydwaith newydd sy'n cefnogi gweithwyr creadigol proffesiynol ledled Abertawe, gan gynnwys gweithwyr llawrydd, egin fusnesau a busnesau sefydledig. Mae'r rhwydwaith yn cael ei ariannu drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'i gyflwyno gan Gyngor Abertawe, ac mae'n annog cydweithio drwy lwyfan digidol newydd a digwyddiadau y gallwch fynd iddynt yn bersonol sy'n cynnig cyfleoedd rhwydweithio, dysgu ac ysbrydoliaeth greadigol.
Fel rhan o lansiad y wefan ar ddiwedd mis Mai, rydym yn comisiynu fideograffydd/ffotograffydd sydd â sgiliau sinematig ac artistig cryf i gynhyrchu sioe weledol gyfoethog, cyfres o luniau llonydd o ansawdd uchel a llyfrgell o glipiau fideo sy'n cyfleu creadigrwydd, doniau ac egni sector creadigol Abertawe.
Dylai'r ffilmiau a’r ffotograffiaeth fod yn ddiamser a dylent gynrychioli'r sector yn eang - ni ddylent fod ar gyfer digwyddiadau penodol ac ni ddylent ganolbwyntio'n ormodol ar leoliadau unigol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am bob agwedd ar y prosiect, gan gynnwys cyn cynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu. Dylai'r holl waith gael ei gwblhau o fewn y gyllideb o £10,000.
Dyddiad cau terfynol: Canol mis Mai 2025
Disgwylir i ymgeiswyr ddarparu enghreifftiau o waith blaenorol sy'n berthnasol i dôn ac arddull y briff hwn, ac i ddangos dealltwriaeth o'r sector creadigol a diwylliannol.
Yr hyn y mae angen i'r ymgeisydd ei ddarparu
-
16-20 o ffotograffau artistig eglur iawn i'w defnyddio ar draws y we ac ar lwyfannau digidol.
-
Un fideo nodwedd 16:9 (tua 1.5 - 2 funud). Delweddau i gerddoriaeth yn unig.
-
Un fideo cymdeithasol byr 16:9 (tua 30-45 eiliad)
-
Ffolder wedi'i churadu o 10 -15 o glipiau fideo o ansawdd uchel (clipiau byr, amlbwrpas i'w defnyddio yn y dyfodol ar draws llwyfannau Abertawe Greadigol, gan gynnwys y wefan)
Ffocws y cynnwys
Dylai'r cynnwys gynrychioli sectorau creadigol allweddol, gan gynnwys:
-
Theatr
-
Cerddoriaeth
-
Celf weledol
-
Cynnwys ar y sgrin (ffilm, teledu ac ar-lein)
-
Arloesedd technolegol yn y sectorau hyn
Dylai'r stori ganolbwyntio ar bobl greadigol go iawn - artistiaid, gwneuthurwyr, perfformwyr, cynhyrchwyr - y rhai sy'n gweithio yn Abertawe a'r cyffiniau. Disgwylir i'r lleoliadau fod o fewn pellter gyrru byr. Gall Abertawe Greadigol gefnogi gyda chydlynu, logisteg a chael mynediad. Disgwylir i'r fideograffydd/ffotograffydd feddu ar ddealltwriaeth dda o'r cysyniad a'r caniatâd sy'n ofynnol, yn ogystal ag asesiadau risg priodol.
Cyfeiriad creadigol
Tôn ac Arddull
-
Ysbrydoledig a phroffesiynol, gyda dyfnder gweledol ac emosiynol
-
Sinematig, nid corfforaethol - ymagwedd drawiadol a chelfyddydol
-
Rhoi ffocws ar bobl ac egni creadigol, heb fod yn gysylltiedig â lleoedd neu ddigwyddiadau penodol
Ymagwedd weledol
-
Fideo sinematig o ansawdd uchel
-
Cyfansoddiad a fframio creadigol
-
Cymysgedd o luniau onglau llydan, lluniau agos a delweddau deinamig/gweithredol
-
Arddull ddidwyll, arsylwadol - heb eu llwyfannu'n ormodol
-
Osgoi rhoi gormod ffocws ar leoliadau unigol, y nod yw cynhyrchu deunyddiau gweledol amlbwrpasol sy'n hirhoedlog
Adrodd straeon
-
Arddangos pobl go iawn fel rhan o'r gwaith ac yn ystod y broses greadigol
-
Tynnu lluniau o eiliadau go iawn, y tu ôl i'r llenni
-
Cyfleu graddfa, amrywiaeth ac uchelgais diwydiannau creadigol Abertawe
Cerddoriaeth a sain
-
Trac sain â chaniatâd deiliaid yr hawlfraint sy'n ategu cyflymder a thôn
-
Dyluniad sain cynnil sy'n cefnogi'r delweddau, heb eu llethu
Cyflymder a golygu
-
Trosiadau a thoriadau atyniadol sy'n ennyn diddordeb
-
Rhythm a llif pwyllog drwy gydol y darn
-
Naratif cryf ac effaith emosiynol
Brandio a chysondeb
-
Darperir canllawiau brand (logo, palet lliw, teipograffeg)
-
Dylai'r delweddau terfynol alinio â hunaniaeth Abertawe Greadigol wrth gadw uniondeb artistig
Amserlen:
-
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno portffolio: dydd Gwener 18 Ebrill 2025
-
Dyddiad cau terfynol ar gyfer cyflwyno: 26 Mai 2025
-
Mae’n rhaid eich bod chi ar gael yn ystod y cyfnod hwn i gwblhau a chyflwyno’r gwaith.
Cysylltwch: ContactCreative@swansea.gov.uk