Ynglŷn â'r Rhaglen
Mae Little Wander, Channel 4 ac S4C wedi partneru i lansio’r Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi newydd hon gyda’r nod o greu cyfleoedd i ddoniau comedi newydd o Gymru (a rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru) er mwyn rhoi cyfleoedd datblygu gyrfa ac agor y drws i gomisiynau creadigol posibl gyda’r ddau ddarlledwr yn y dyfodol.
Bydd yr awduron a'r perfformwyr a gaiff eu dewis yn cael eu paru â mentoriaid i weithio ar ddarnau comedi i'w harddangos i gomisiynwyr Channel 4 ac S4C yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth yn 2024.
Bydd y rhaglen yn rhoi amser datblygu cyflogedig i artistiaid (£1,000 o gyllid datblygu), mentora proffesiynol, dosbarthiadau meistr yn y diwydiant a chyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth a’u profiad o’r diwydiant comedi.
Bydd arddangosiadau’r ŵyl yn cael eu rhannu’n Gymraeg a Saesneg, gydag o leiaf hanner y cyfranogwyr yn paratoi deunydd yn Gymraeg.. Bydd cyfranogwyr yn gallu paratoi deunydd yn y ddwy iaith i'w gyflwyno i'r gwahanol ddarlledwyr ond rhaid iddynt ddewis prif iaith a darlledwr wrth wneud eu cais.
Mae cymorth ar gael i siaradwyr Cymraeg newydd, dysgwyr, ac i’r rhai sydd heb lawer o brofiad blaenorol o berfformio yn Gymraeg.
Bydd yr artistiaid yn gallu datblygu unrhyw waith yn fras o fewn y genre comedi naratif - gan greu deunydd a chymeriadau newydd a all fod yn sail i ddatblygu syniadau cyfresi teledu naratif llawn gyda’r ddau ddarlledwr. Bydd S4C yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno datblygu mathau eraill o berfformiadau comedi hefyd.
Bydd 6 o gyfranogwyr yn cael eu dewis ar gyfer y rhaglen, gydag o leiaf hanner ohonynt yn gweithio yn Gymraeg. Rydym yn disgwyl i'r cyfranogwyr sydd wedi’u dewis fod ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd ac rydym wedi ymrwymo i deilwra'r rhaglen i weddu eu hanghenion unigol.
Cymhwysedd
Gall ceisiadau fod gan unigolion, deuawdau neu grwpiau (ni fydd ceisiadau gan gwmnïau’n cael eu hystyried).
Mae'n rhaid i artistiaid fod yn Gymry neu wedi'u lleoli yng Nghymru.
Ar gyfer artistiaid sy'n gweithio yn Saesneg yn bennaf (Channel 4) – byddwn ond yn derbyn ceisiadau gan artistiaid nad oes ganddynt gomisiynau blaenorol gan ddarlledwr mawr.
Ar gyfer artistiaid sy'n gweithio'n yn Gymraeg bennaf (S4C) - byddwn yn derbyn ceisiadau gan artistiaid newydd yn ogystal â'r rhai sydd wedi cael comisiwn blaenorol gydag S4C.
Mynediad a cynwysoldeb
Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli yn y diwydiant comedi ac yn y celfyddydau ar hyn o bryd.
Mae S4C yn sefydliad Cymraeg blaenllaw sy'n benderfynol o adlewyrchu Cymru gyfan ac felly mae'n hanfodol ei bod yn arwain y ffordd o ran amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb ar draws y sector creadigol a thu hwnt.
Mae Channel 4 yn ymfalchïo mewn hyrwyddo lleisiau hollol wahanol. Amrywiaeth yw anadl einioes Channel 4. Felly mae'r cynllun yn agored i bob unigolyn, a byddwn yn darparu ar gyfer unrhyw anghenion mynediad yn y broses ymgeisio.
Mae’r ffurflen gais yn cynnwys cwestiynau Cyfleon Cyfartal.
Dyddiadau Allweddol
4 Rhagfyr 2023 - Ceisiadau'n agor
14 Ionawr 2024 - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
1 Chwefror 2024 - Rhaglen yn dechrau
3 - 5 Mai 2024 - Gŵyl Gomedi Machynlleth
4 - 6 Hydref 2024 - Gŵyl Gomedi Aberystwyth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, cymhwysedd, y broses ymgeisio neu os hoffech wneud cais mewn fformat arall, cysylltwch â maria@littlewander.co.uk