Teitl y Brosiect: Ysgol Pwerau Planed ar gyfer Plant Anghyffredin

 

Cwmni: EA Productions

 

Cyfnod y Brosiect: Ail Rownd Ymchwil a Datblygu

 

Mae EA Productions, mewn partneriaeth â Pontio a Fran Wen o Fangor, Gogledd Cymru wrth eu bodd i gyhoeddi cyfle cyffrous i Ddylunydd ac Adeiladwr Setiau Iaith Gymraeg ymuno ag ail gam ymchwil a datblygu ein prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru " Ysgol Pwerau Planed ar gyfer Plant Anghyffredin” Nod y sioe ymdrochol  hon yw ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ifanc mewn addysg amgylcheddil trwy chwedleua rhyngweithiol a phrofiadau theatr ymdrochol.

 

Lleoliad:

Bangor, Gogledd Cymru

 

Cytundeb:

Taledig, 10 Diwrnod

 

Cyfnod y Brosiect

Mae’r cyfle hwn yn nodi ail gam ymchwil a datblygu(Y&D) ein prosiect, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ein nod yw dyrchafu'r brosiect hon i'w gam perfformio, a ragwelir fel trydydd cam y brosiect.

 

Ymgeisydd Delfrydol

 

Bydd yr ymgeisydd perffaith yn meddu ar:

 

• Brofiad profedig o weithio fel rhan o dîm cydweithredol.

• Arbenigedd mewn gwaith coed a gwaith metel.

• Dealltwriaeth o theatr ymdrochol a sut mae’r rhyngweithiad rhwng aelodau'r gynulleidfa â set yn gofyn am gadernid set a phropiau.

• Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r naws a'r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â phrosiectau a ariennir gan Gyngor y Celfyddydau, yn enwedig o ran amserlenni a'r hyn y gellir ei gyflawni.

 

Cyfrifoldebau

 

• Gweithio fel aelod gwerthfawr o’r ‘tîm adeiladu byd’ ac fel rhan o’r tîm creadigol ehangach.

• Arwain ar y gwaith saer a dylunio set gwaith metel ac adeiladu ochr yn ochr ag ail ddylunydd set.

• Cydweithio â'r Cyfarwyddwr Artistig a thîm y brosiect i ddatblygu’r weledigaeth gyffredinol ar gyfer y brosiect trwy ei ail gyfnod Ymchwil a Datblygu a'i baratoi ar gyfer perfformiad.

• Dealltwriaeth o'n hethos o greadigrwydd cydweithredol sy'n gynhwysol, yn arloesol ac yn gyfeillgar i blant, gan sicrhau profiad ymdrochol ac effeithiol i'n cynulleidfa.

• Llywio'r brosiect o fewn cwmpas canllawiau ac amserlenni Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

Sut i wneud cais

 

I achub ar y cyfle rhyfeddol hwn, cyflwynwch y deunyddiau canlynol i'n porth ymgeisio:

 

1. Eich CV, yn amlinellu eich profiad a'ch cymwysterau.

2. Ffilmiau fideo a ffotograffau o'ch gwaith blaenorol, yn arddangos eich gallu i weithii ar ddarnau theatr ymdrochol, yn enwedig i blant.

3. Fideo fer, sain, neu ddogfen ysgrifenedig yn egluro eich diddordeb mewn ymuno ag EA Productions ar gyfer y brosiect hon a sut mae eich arbenigedd yn cyd-fynd â'n gweledigaeth.

Cyflwynwch eich cais i eleanor@eaproductions.co.uk

 

Dyddiadau Pwysig

1. Dyddiad Cau: Dydd Gwener 10fed Mai

2. Cyfweliadau: W/C 13 Mai

3. Bydd pythefnos o ymchwil a datblygu yn digwydd yn ystod pythefnos cyntaf mis Mehefin.

4. Bydd angen Dylunydd Set W/C 10 Mehefin

 

Nid swydd yn unig yw'r rôl hon ond taith i wraidd theatr i blant, gan gynnig y cyfle i gael effaith amgylcheddol ac addysgol arwyddocaol. Os ydych chi'n angerddol am adrodd straeon ymdrochol a bod gennych y sgiliau i ddod â gweledigaethau creadigol yn fyw, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

 

Ymunwch â ni yn EA Productions a helpwch ni i droi “The School of Planet Powers for Extraordinary Children” yn realiti, gan ysbrydoli meddyliau ifanc i drysori ac amddiffyn ein planed.

 

Mae EA Productions yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae'n annog ceisiadau gan bob unigolyn cymwys

 

Dyddiad cau: 10/05/2024