Rydyn ni ar drywydd Dyluniwr Set a Gwisgoedd ar gyfer y gwaith Ymchwil a Datblygu ar The Pugilist, drama newydd gan Jesse Briton a Rachel Trezise am hanes y Bandiau Jazz Martsio a gwaddol y Pencampwr Paffio Pwysau Ysgafn y Byd, Freddie Welsh (a ysbrydolodd The Great Gatsby).
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan y rheini a chanddyn nhw gysylltiad â Phontypridd neu gyffiniau ehangach y cymoedd.
Dyddiadau’r Ymchwil a Datblygu: 25ain – 29ain Mawrth
Lleoliad: YMa
Tâl: £600
I wneud cais ebostiwch i info@holmtheatre.org bwt o neges yn mynegi diddordeb (dim mwy na pharagraff) a naill ai cv neu ddolenni â gwaith cynt.
Dyddiad cau: 1af Mawrth 2024. 5pm.
Dyddiad cau: 01/03/2024