Mae BALLET CYMRU yn gwmni ballet proffesiynol arobryn wedi’i leoli yng Nghymru, y DU, sy'n cynhyrchu perfformiadau dawns gwreiddiol sy’n teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Rydym yn chwilio am ddawnswyr amrywiol, unigol, profiadol ac uchel iawn eu cymhelliant sydd â Sgiliau Ballet Clasurol a/neu Sgiliau Cyfoes a Chreadigol ardderchog.
Mae Ballet Cymru yn croesawu ceisiadau gan ddawnswyr anabl, niwroamrywiol, Du, Asiaidd, pobl o liw nad ydynt yn Ddu, a/neu ddawnswyr ethnig-amrywiol.
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i weithio yn y DU.
Contractau Llawn-amser a Llawrydd ar gael, yn dechrau Ebrill 2024.
Lle: Ballet Cymru, Casnewydd, Cymru, y Deyrnas Unedig
Pryd: Clyweliadau Ionawr/Chwefror 2024. Contractau yn dechrau Ebrill 2024
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Ionawr 2024
Gwneud cais:
Byddwch cystal ag anfon eich manylion, a hynny ar ffurf CV ysgrifenedig neu eich cyflwyniad dewisol, ynghyd â dolenni i luniau a/neu fideos addas, at:
Darius James OBE, Cyfarwyddwr Artistig
Ballet Cymru
E-bost: dariusjames@welshballet.co.uk
Bydd y clyweliadau, a fydd yn rhai trwy wahoddiad yn unig, yn cael eu cynnal yn stiwdios dawns hygyrch Ballet Cymru yng Nghasnewydd, Cymru, y DU, a hynny yn ystod misoedd Ionawr/Chwefror 2024.
Mae'r hysbyseb hwn hefyd ar gael ar ein gwefan www.ballet.cymru yn Gymraeg ac ar ffurf fideo BSL wedi'i sgrindeitlo yn Saesneg.
Mae Ballet Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac wedi Ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd.