Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn recriwtio cynorthwyydd gweinyddol rhan amser i gefnogi Prosiect Cyngor y Celfyddydau y mae’r Eisteddfod yn ei redeg gyda phartneriaid eraill.
Mae’r swydd yn un rhan-amser am gyfnod penodol a bydd wedi’i lleoli yn swyddfeydd Eisteddfod Llangollen. Yr oriau hyblyg fydd 10 awr yr wythnos a byddant am brosiect cyfnod penodol tan fis Medi 2025.
Cyfradd y cyflog yw £12 yr awr, CLlA £23,400
Crynodeb o’r Swydd: Rhoddir cyfrifoldeb i chi am sicrhau bod gofynion gweinyddol amrywiol y prosiect yn cael eu rheoli’n effeithlon. Byddwch yn gweithio mewn tîm y neilltuir cyfrifoldeb iddo am rai cyfrifon allweddol a byddwch yn gyfrifol am reoli’r gweithgareddau allweddol canlynol a sicrhau eu bod yn bodloni safonau perfformiad gofynnol.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau: Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer y Prosiect Cysylltu a Ffynnu, delio ag arweinwyr Prosiectau, cleientiaid a chyflenwyr trwy e-bost, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
- Archebu cyfarfodydd a threfnu amserlenni cyfarfodydd
- Cadw cofnodion a pharatoi adroddiadau, diweddaru cofnodion cyfrifiadurol
- Prosesu anfonebau, olrhain derbynebau, mewnbynnu treuliau
- Monitro cyllideb y prosiect
- Trefnu cynlluniau teithio
- Archebu offer a deunydd ysgrifennu
- Ymateb i gwestiynau a cheisiadau am wybodaeth
- Croesawu ymwelwyr i’r adeilad/Eisteddfod, trefnu pasys a dangos lleoliadau perthnasol iddynt
- Cysylltu wyneb yn wyneb, drwy Zoom a thros y ffôn gyda chyfranogwyr y prosiect
- Unrhyw ddyletswyddau eraill yn ymwneud â’r prosiect a’r Eisteddfod.
Manylion am yr Ymgeisydd:
- Sgiliau TG cadarn (Outlook, Excel, Word, PowerPoint).
- Yn rhifog a’r gallu i weithio’n gywir ac yn gyflym.
- Gweithio’n effeithiol – mynd i’r afael â materion brys, tra’n cadw ymwybyddiaeth eang o ofynion sy’n dod i’r amlwg. Yn dangos synnwyr da o flaenoriaethau, yn strwythuro llwyth gwaith yn effeithiol ac yn cyflwyno canlyniadau da yn gyson
- Y gallu i ryngweithio â chwsmeriaid mewnol ac allanol ar bob lefel o fewn y busnes.
- Hyblyg ac yn gallu addasu i’r gofynion newidiol
- Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm hyblyg sy’n darparu cefnogaeth neu gyflenwi ar gyfer cydweithwyr yn ystod cyfnodau o absenoldeb neu gyfnodau prysur.
- Y gallu i gwrdd â therfynau amser a gweithio dan bwysau.
- O leiaf 1 mlynedd o brofiad mewn amgylchedd swyddfa
- Siarad Cymraeg (Dymunol ond nid yw’n hanfodol)
Cyfle gwirioneddol wych ar gyfer cynorthwyydd gweinyddol ond hefyd i weithio fel rhan o’r ŵyl.
Cyflog: £12 yr awr
Buddion:
- Pensiwn cwmni
Oriau:
- Oriau hyblyg o ddydd Llun i ddydd Gwener
Lleoliad Gwaith: Mewn swyddfa, o fewn Swyddfeydd Eisteddfod Llangollen.
E-bostiwch lythyr eglurhaol a CV i recruitment@llangollen.net
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 19 Ebrill 5yp
Os hoffech siarad â’r Rheolwr Gweithrediadau neu’r Cadeirydd am y cyfle hwn, cysylltwch â info@llangollen.net
Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am Ariannu’r swydd hon.