Mae’r Dyn Gwyrdd yn chwilio am Gynorthwyydd i ymuno â'i Dîm Cerddoriaeth ac i gynorthwyo â’r gwaith o reoli rhaglen Green Man Rising, o'r broses ddethol i reoli bandiau yn yr ŵyl.
Disgrifiad swydd
Cyflog: £25,688 gros pro rata y flwyddyn (£1,976 gros am 20 diwrnod)
Math o Gyflogaeth: Cyfnod Penodol, contract rhan amser
Oriau Gwaith: i’w cytuno â’r rheolwr llinell. Mae’r Dyn Gwyrdd yn cynnig oriau gweithio hyblyg.
Gweithio i’r: Cyfarwyddwr (cerddoriaeth ac archebu)
Sut i wneud cais: Anfon CV a llythyr eglurhaol at jobs@greenman.net
Mae Green Man Rising, sy’n rhaglen datblygu cerddoriaeth unigryw yn cefnogi 125 o grewyr cerddoriaeth bob blwyddyn ac yn eu rhoi ar ben ffordd fel eu bod yn gallu datblygu’n brif artistiaid y dyfodol. Mae'n cynnig cyfleoedd i artistiaid newydd berfformio’n fyw, a manteisio ar asedau hyrwyddo proffesiynol, mentora gan weithwyr proffesiynol y diwydiant ac mae’n rhoi mynediad at rwydwaith o grewyr chwaeth allweddol y diwydiant a all wthio eu gwaith ymlaen. Mae'n digwydd o dan ymbarél Gŵyl y Dyn Gwyrdd gan roi cyfle i fandiau agor ei Llwyfan Mynydd eiconig.
Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn brwdfrydig sy’n credu mewn gweithio’n galed ac sy’n gweithio’n dda dan bwysau, rhywun a chanddo bersonoliaeth ddymunol ac sy’n datblygu perthynas yn naturiol.
Bydd y rôl yn gofyn am weithio 'ar y safle' yn ystod gwahanol gamau o'r rhaglen, h.y. yn y rownd derfynol fyw (mis Mehefin 2024) ac yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd (Awst 2024).
Mae hon yn rôl ran-amser gydag ymrwymiadau dyddiol amrywiol a disgwylir y bydd rhai oriau gwaith yn anghymdeithasol.
Tasgau a chyfrifoldebau
- Cefnogi’r Tîm Cerddoriaeth gyda phroses ddethol ceisiadau cystadleuaeth Green Man Rising.
- Cynorthwyo’r tîm wrth grynhoi asedau marchnata gan fandiau.
- Cynorthwyo i drefnu’r gystadleuaeth derfynol fyw, gan gydlynu â’r ganolfan bartner a rhanddeiliaid eraill.
- Gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer bandiau sy’n cymryd rhan.
- Cynorthwyo â disgwyliadau a gofynion penodol a rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’r timau perthnasol.
- Cynorthwyo’r timau Marchnata a Cherddoriaeth a chwmni cynhyrchu partner i reoli’r sesiynau yn yr ŵyl.
- Goruchwylio’r holl artistiaid a gwahoddedigion wrth iddynt gyrraedd yr ŵyl a sicrhau fod popeth yn digwydd yn hwylus.
- Gweithredu fel cyswllt cyntaf timau Swyddfa Docynnau’r Artistiaid ar gyfer ymholiadau yn ystod dyddiau byw yr ŵyl.
- Gweithio gyda Rheolwr Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd i fonitro a gwerthuso’r rhaglen.
- Darparu cymorth gweinyddol yn ôl yr angen gan y rheolwyr llinell.
Sgiliau
- Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhifedd rhagorol
- Cyfarwydd â gweithio gyda Photoshop, Indesign, G Suite, Microsoft Office (Excel yn arbennig)
- Gwaith trylwyr a sgiliau trefnu da
- Sgiliau ymchwilio rhagorol
- Y gallu i weithio mewn amgylchedd tîm, a derbyn cyfarwyddyd a gwneud penderfyniadau yn ôl yr angen.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithle a chymuned amrywiol, cyfartal a chwbl gynhwysol ac i gynnig amgylchedd gwaith sy'n parchu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, lle mae pob un yn teimlo ei fod yn cael ei groesawu ac yn hyderus i ymddwyn yn gwbl naturiol.
Mae llais pob unigolyn yn ychwanegu gwerth i’r Dyn Gwyrdd ac rydym yn cyflwyno gwaith i bawb ac sydd wedi’i wneud gan bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Amrywiol, y B/byddar neu'r anabl a chan unrhyw un sydd â nodwedd warchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y cerrig milltir y cytunwyd arnynt gan y rheolwyr llinell ac yn cydymffurfio â'r Contract Cyflogaeth a’r Llawlyfr Cyflogwyr y mae'r Disgrifiad Swydd hwn yn rhan ohonynt.