Yn gyfrifol i: Cyfarwyddwr Celfyddydau Span
Lleoliad: Swyddfa yn Arberth, ond yn gweithio ar draws Sir Benfro
Cyflog: £21,840 FTE (Pro rata £9,360 y flwyddyn yn seiliedig ar 15 awr yr wythnos
Oriau: Rhan amser 15 awr yr wythnos. Bydd angen peth gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau
Gwyliau: 5.6 wythnos pro rata yn cynnwys Gwyliau Banc yn ogystal ag unrhyw ddiwrnodau gwaith rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd yn dibynnu ar weithgareddau SPAN
Cytundeb: 37.5 awr (cyfanswm) hyfforddiant trosglwyddo trwy Ebrill 2024, yna cytundeb tymor penodol o fis Mai 2024 tan Fis Mawrth 2025.
Dyddiad cau: 9am, Dydd Mercher 27ain Mawrth
Prif Bwrpas y Swydd
I weithio ochr yn ochr â’r Cynorthwyydd Marchnata a Dylunio Digidol Rhan Amser presennol i wneud cyfraniad cadarnhaol a phwysig i hyrwyddo holl weithgareddau’r Celfyddydau SPAN a chefnogi’r elusen i gyflawni ei thargedau gwerthu tocynnau ac ymgysylltu, cynyddu ac amrywiaethu cynulleidfaoedd a darparu dyletswyddau marchnata o ddydd i ddydd.
I gynorthwyo’r Cyfarwyddwr i adrodd i unrhyw gais i gyllidwyr am gymorth i’n gwaith.
Mae deiliad y swydd yn chwarae rhan hanfodol mewn tîm bach ac yn gweithio mewn cydweithrediad agos â Chyfarwyddwr SPAN a’r tîm ehangach i hyrwyddo gweithgareddau’r elusen.