Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl:Cynorthwy-ydd Cwsmeriaid

Cyflog: £10.90 yr awr

Dyddiad Cau: 18.10.23

Dyddiad Cyfweld:23.10.23

Amdanom ni/Ein Hadran:

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

Fel lleoliad rydym yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, pob dydd ac eithrio dydd Nadolig. Mae rôl y Cynorthwy-ydd Cwsmeriaid yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau ein bod yn cynnig ‘Croeso Cynnes Cymreig’ i’n hymwelwyr a’n cwsmeriaid.

 

Gofynion Allweddol:

  • Sicrhau profiad eithriadol sy'n tanio dychymyg holl ymwelwyr Canolfan Mileniwm Cymru.
  • Cyfarch a darparu gwybodaeth hanfodol i gwsmeriaid y Ganolfan, darparu cyngor cyfeiriol a gwybodaeth am sioeau'r dyfodol a delio ag ymholiadau cyffredinol.
  • Gwerthu nwyddau/rhaglenni sioeau yn hyderus a delio â thrafodion debyd/credyd.
  • Gweithio o fewn ein profiad rhith-realiti, BOCS – a bod yn gyfforddus â defnyddio technoleg fodern a thywys ymwelydd yn hyderus drwy'r profiad digidol.
  • Sicrhau fod gan bob ardal yr ydych yn gweithio ynddo lefelau uchel o lanweithdra a hysbysu’r Tîm Rheoli am unrhyw faterion yn ymwneud â glanhau, cynnal a chadw neu iechyd a diogelwch.
  • Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi hefyd dywys ymwelwyr ein sioeau neu ddigwyddiadau o bryd i'w gilydd.



Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • Cyflogwr cyflog byw go iawn·Mynediad i bensiwn Now
  • Hyblygrwydd o ran oriau gwaith – dewiswch y shifftiau/oriau sy'n gweithio o amgylch eich bywyd personol a'ch ymrwymiadau
  • Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl·Gostyngiad o 20% yng nghaffis a bwytai’r Ganolfan
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Dyddiad cau: 18/10/2023