A oes gennych angerdd tuag at ffilmiau ar y sgrin fawr? Ydych chi’n ymrwymedig i gyflwyno profiadau bywyd o Gymru i sector sgrin y DU, ac yn y tymor hwy, creu ymwybyddiaeth byd-eang o Gymru? Fyddech chi’n barod i adleoli i Lundain am 9 mis?
Mae Media Cymru yn ymuno â Film Distributors’ Association (FDA), a hynny gyda chefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru a Ffilm Cymru, i gynnig DWY hyfforddeiaeth 9 mis gyda thâl gyda dosbarthwr y DU i gyfranogwyr wedi’u lleoli yng Nghymru.
Rydym yn awyddus i recriwtio DAU hyfforddai uchelgeisiol sy’n byw a/neu’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, sy’n gallu arddangos y priodoleddau canlynol ac sy’n barod i adleoli i Lundain ar gyfer yr hyfforddeiaeth:
- Angerdd tuag at ffilmiau ac awydd i ddysgu
- Sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu rhagorol
- Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office ac e-bost
- Gallu gweithio fel rhan o dîm
- Parodrwydd i deithio
- Ymrwymiad i ddiwylliant Cymru, adrodd straeon a’r iaith, a chariad tuag atynt
Bydd hyfforddeion yn ymgymryd â lleoliad â thâl mewn swyddfa gyda chwmni dosbarthu neu werthu rhyngwladol y DU. Mae’r rôl hyfforddi hon yn seiliedig ar wythnos waith 37.5 awr am 9 mis, gyda lleoliadau yn cael eu cynnal rhwng Mehefin 2025 a Mawrth 2026. (Bydd y cwmni sy’n darparu’r lleoliad yn cadarnhau’r union ddyddiadau).
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd hyfforddeion yn meithrin gwybodaeth eang am y busnes arddangos mewn sinema, sy’n penderfynu sut, ble a phryd y bydd ffilmiau ar gael i’r cyhoedd. Byddant yn archwilio’r cysylltiadau cytundebol a phroffesiynol y mae gwneuthurwyr ffilmiau yn eu hwynebu ac yn ymestyn dealltwriaeth cynhyrchwyr ffilmiau (Cymru) o’r hyn a fydd yn digwydd i ffilm ar ôl iddi gael ei rhyddhau i’r byd.
Erbyn diwedd y lleoliad 9 mis, bydd yr hyfforddeion wedi meithrin dealltwriaeth o:
- Gysylltiadau rhwng y cynhyrchydd/dosbarthwr a’r cynhyrchydd/asiant gwerthu
- Dosbarthu contractau, comisiynau a’u hystyr
- Sut i gyflawni a chefnogi prosiectau ffilm a pha ddeunyddiau sydd eu hangen
- Y platfform rhyddhau i’r sinema a pham mae hynny’n parhau i fod mor bwysig
- Y berthynas rhwng y dosbarthwr a’r arddangoswr
- Gofynion dosbarthwr ac asiant gwerthu ffilmiau a sut i ddewis yr hyn sydd orau i brosiect
- Sut i fod yn rhan bwysig o helpu i lunio cynnwys prosiectau newydd sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, o Gymru neu am Gymru.
Gwybodaeth am y Gymdeithas Dosbarthwyr Ffilmiau
Mae’r Gymdeithas Dosbarthwyr Ffilmiau (FDA) yn cynrychioli buddiannau dosbarthwyr ffilmiau yn y DU ac Iwerddon. Mae ei haelodau’n amrywio o stiwdios Hollywood i weithredwyr annibynnol ac mae’n gyfrifol am 99% o’r holl ffilmiau sy’n cael eu rhyddhau’n theatrig yn y diriogaeth.
MANYLION CYFLENWI
A. Beth mae’n ei Olygu?
Ariennir y cynllun hwn yn llawn gan y Gymdeithas Dosbarthwyr Ffilmiau, a chefnogir y ddau leoliad ‘o Gymru’ gan Media Cymru ar ffurf bwrsari teithio iach a llety. Mae’n ofynnol i’r cwmnïau sy’n cymryd rhan hefyd wneud cyfraniad ariannol tuag at gostau hyfforddi ei hyfforddai.
Bydd hyfforddeion yn gweithio oriau amser llawn (37.5 awr yr wythnos) am 9 mis gyda’r cwmni sy’n eu cyflogi (Aelod o’r FDA) ac yn mynychu sesiynau hyfforddi rheolaidd gyda hyfforddeion eraill o bob cwr o’r DU, i wella eu sgiliau cyflogadwyedd a gwybodaeth am y diwydiant ffilmiau ymhellach.
- Telir lwfans hyfforddi misol i hyfforddeion sy’n gyfwerth â Chyflog Byw Llundain (sef £385 yr wythnos).
- Yn ogystal â hyn, bydd yr FDA yn rhoi un tâl cynhaliaeth o £1,000.
- Bydd ein hyfforddeion hefyd yn gymwys i gael bwrsari teithio a llety Media Cymru gwerth cyfanswm o £9,000 am gyfnod y lleoliad cyfan.
- Bydd gan hyfforddeion hawl i gael o leiaf 16 diwrnod o wyliau blynyddol, yn amodol ar gytundeb gyda’r sefydliad sy’n eu cyflogi.
Yn ystod ac ar ôl yr hyfforddiant, bydd yn ofynnol i’n dau ddosbarthwr ffilmiau ddychwelyd i Gymru, i gymryd rhan mewn digwyddiadau rhwydweithio a digwyddiadau gwybodaeth gyda chynhyrchwyr ffilmiau o Gymru, gyda’r nod o ddatblygu gyrfa lwyddiannus a chynaliadwy mewn dosbarthu a gwerthu ffilm yng Nghymru.
B. Pwy all wneud cais?
Mae’r rhaglen ar agor i unrhyw un dros 18 oed, sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’n rhaid i hyfforddeion fod yn newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant. Ni ddylent feddu ar fwy na deuddeg mis o brofiad gwaith uniongyrchol mewn diwydiant, boed hynny’n barhaol neu’n ysbeidiol, am dâl neu’n ddi-dâl.
Rydym yn hynod awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sy’n teimlo’n angerddol am ffilmiau a straeon o Gymru neu ddiwylliant Cymru/yr iaith Gymraeg. Mae’n rhaid i hyfforddeion hefyd fod yn gymwys i weithio yn Llundain ac yn gallu gweithio yno drwy gydol y rhaglen.
Rydym yn cydnabod gwerth amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu annheg. Ein nod bob tro yw recriwtio’r person sydd fwyaf addas ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir. Mae hyn yn cynnwys pobl o bob oedran, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, cenedligrwydd, crefydd a chred.
Mae DAU leoliad â chymorth ar gael drwy’r cynllun hwn.
C. Pryd a ble?
Bydd y broses ymgeisio yn cau ddydd Sul 16 Mawrth 2025.
Hysbysir yr ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer erbyn dydd Llun 7 Ebrill 2025.
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 21 Ebrill 2025.
Byddwn yn rhoi gwybod i bawb a oedd eu cais yn llwyddiannus ai peidio erbyn dydd Gwener 2 Mai 2025.
Gofynnwn i chi sicrhau eich bod yn gallu mynychu pob sesiwn hyfforddi yn ystod y cyfnod canlynol:
- Cyfnod arfaethedig rhaglen 2025 yw rhwng Mehefin 2025 a Mawrth 2026 (Bydd y cwmni sy’n cynnal y lleoliad yn cadarnhau’r union ddyddiadau).
D. Gall yr hyfforddeion ddisgwyl y canlynol:
- Diwrnod cynefino cyn i’r hyfforddeion ddechrau hyfforddi gyda’r cwmni sy’n aelod o’r FDA (dyddiad i’w gadarnhau).
- Disgwylir i hyfforddeion gymryd rhan mewn ‘sesiynau ystafell ddosbarth’ yn rheolaidd i ddysgu mwy am ddosbarthu ac i wrando ar weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
- Yr FDA sy’n gyfrifol am yr holl agweddau Adnoddau Dynol a thaliadau yn ystod y cyfnod o 9 mis. Telir hyfforddeion bob 5 neu 4 wythnos ar ffurf trosglwyddiad o’r banc.
- Media Cymru fydd yn gweinyddu’r bwrsari cymorth teithio a llety ar ffurf system hawliadau misol.
- Bydd yr FDA a’r cwmni hyfforddi yn gwneud pob ymdrech i gefnogi pob hyfforddai ar ôl i’r lleoliad ddod i ben, i’w gynorthwyo i gael gwaith a/neu gyfleoedd ymgynghori yn y sector, a hynny’n ddelfrydol, yn ôl yng Nghymru, a/neu ochr yn ochr â’r cwmni sy’n cynnal y lleoliad.
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau rhwydweithio a digwyddiadau gwybodaeth yng Nghymru gyda chynhyrchwyr ffilmiau yng Nghymru, gyda’r nod o ddatblygu gyrfa lwyddiannus a chynaliadwy mewn dosbarthu a gwerthu ffilmiau yng Nghymru. Hyrwyddir y digwyddiadau hyn gan Media Cymru.
E. Gweminar Holi ac Ateb
Bydd gweminar gwybodaeth am 11:00 ddydd Iau 20 Chwefror, gyda Geraldine Moloney (FDA) a Hana Lewis (Canolfan Ffilm Cymru) yn ei arwain.
Gallwch ofyn cwestiynau am fod yn Ddosbarthwr Ffilmiau, y cynllun hyfforddi a’r broses ymgeisio ac am arddangos ffilmiau yng Nghymru. Nid oes rhaid i chi ddod i’r weminar er mwyn gwneud cais ond mae’n gyfle i chi ddysgu mwy.
F. Mynediad a hygyrchedd
Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai'n gwneud y cais hwn yn fwy hygyrch i chi (fel cyngor, cymorth ysgrifennu neu gymorth darllen), neu os hoffech y cais hwn mewn fformat arall (fideo neu sain, llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), ebostiwch media.cymru@southwales.ac.uk
G. Unrhyw Gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â media.cymru@southwales.ac.uk