Yn gyfrifol i: Y Cynhyrchydd Cymunedol
Yn gyfrifol am:: Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Cymunedol i reoli artistiaid llawrydd a staff y prosiect
Lleoliad: Swyddfa yn Arberth ond yn gweithio ar draws Sir Benfro
Cyflog: £21,840 FTE (£13,104 pro rata yn seiliedig ar 21 awr yr wythnos)
Oriau gwaith: Rhan amser (21 awr yr wythnos)
Bydd angen peth gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Gwyliau Blynyddol: 5.6 wythnos yn cynnwys Gwyliau Banc
Cytundeb: Cytundeb cyfnod penodol o 12 mis o'r dyddiad dechrau
Elusen celfyddydau cymunedol wedi’i lleoli yn Arberth yw Celfyddydau Span, gyda hanes 30 mlynedd o wneud cyfraniad sylweddol at y celfyddydau yn Sir Benfro. Rydym yn uchelgeisiol dros y celfyddydau yn Sir Benfro - i ysbrydoli a chysylltu pobl wledig, lleoedd a chymunedau yn greadigol ac yn ceisio herio canfyddiadau o'r hyn y gall cymunedau gwledig ei wneud a'r hyn y gallant ei gyflawni pan fyddant yn gweithio gyda'i gilydd.
Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, perfformwyr a chynhyrchwyr i gyd-greu prosiectau a phrofiadau sy’n cyfoethogi bywydau pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac yn gwella iechyd a lles.
Beth mae Celfyddydau SPAN yn ei wneud?
Mae Celfyddydau Span yn ymgysylltu â chymunedau gwledig mewn profiadau celfyddydol cymunedol ystyrlon ar draws Sir Benfro ar gyfer cymunedau Cymraeg a Saesneg eu hiaith,
- Rydym yn cyd-greu, cyd-gomisiynu ac yn cyd-guradu ystod amrywiol o ymgysylltu, digwyddiadau a pherfformiadau creadigol o ansawdd uchel
- Rydym yn gweithio mewn partneriaethau i ddarparu rhaglen uchelgeisiol a bywiog o gelf gymunedol ac ymgysylltu ag iechyd
- Cawn ein cefnogi gan raglen wirfoddoli bywiog sydd wedi hen ennill ei phlwyf
Pa wahaniaeth mae Celfyddydau SPAN yn ei wneud?
- Lleihau unigedd gwledig, unigrwydd, ac amddifadedd
- Rhoi hwb i iechyd a llesiant
- Meithrin talent leol a thalent sy'n dod i'r amlwg
- Cynnig cynnwys i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith
- Helpu i adeiladu cymunedau gwledig mwy cysylltiedig a gwydn
Rheolaeth
Rheolir Celfyddydau Span gan Gyfarwyddwr cyflogedig gyda chefnogaeth strategol gan Fwrdd Ymddiriedolwyr sy’n wirfoddolwyr wedi eu tynnu o'r gymuned leol.
Rydym yn dîm bach ond ymroddedig - ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwr y gweithwyr presennol yw: Rheolwr Cyllid, Cynorthwy-ydd Marchnata a Dylunio Digidol x2, Swyddog Gwirfoddolwyr, Cynhyrchydd Cymunedol, Swyddog Datblygu, Swyddog Prosiect a staff prosiect llawrydd
Prif Bwrpas y Swydd
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r Cynhyrchydd Cymunedol i gyflwyno'r rhaglen Gwrandewch ar Eich Celf gan gydweithio â'n cymuned, partneriaid, gwirfoddolwyr ac artistiaid i greu'r rhaglen gydlynol hon o ymgysylltu, perfformio, dysgu a dathlu creadigol o dan y themâu canlynol
- Yr Iaith Gymraeg
- Ein hamgylchedd
- Mynegiant creadigol ieuenctid a datblygu talent
- Lles cymunedol
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Cynorthwyo i gyflwyno’r rhaglen:
- Gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Cymunedol, Tîm SPAN, y gymuned, artistiaid a gwirfoddolwyr, cynorthwyo i lunio, datblygu a chyflwyno prosiectau a digwyddiadau cyfranogiad yn y celfyddydau, prosiectau perfformio ac ymgysylltu a digwyddiadau.
- Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Cymunedol i gydweithio a chyd-greu gyda phobl leol i sicrhau gwaith sy'n adlewyrchu amrywiaeth gymdeithasol ac anghenion yr ardal
- Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Cymunedol i gefnogi datblygiad cyfleoedd ymgysylltu creadigol sydd â pherthnasedd lleol a chyseiniant cenedlaethol/byd-eang.
- Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Cymunedol i ddatblygu dealltwriaeth SPAN o’r gymuned leol, a’n lle ynddi, drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu uniongyrchol a chydweithio
Ymgysylltu a Chyrraedd::
- Gweithio ar y cyd â staff marchnata SPAN i chwalu rhwystrau rhag ymgysylltu a meithrin cyfathrebu cryf a phriodol gyda'n cynulleidfaoedd amrywiol
- Cynorthwyo’r Cynhyrchydd Cymunedol i dyfu proffil SPAN fel sefydliad dwyieithog, gan annog a hyrwyddo prosiectau a digwyddiadau yn y Gymraeg a Saesneg.
Rheoli Staff a Gwirfoddolwyr
- Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Cymunedol i gydlynu gyda staff prosiect llawrydd ac artistiaid
- Gweithio gyda'r Swyddog Gwirfoddolwyr i gynorthwyo cefnogi a rheoli gwirfoddolwyr digwyddiadau a rhaglenni
Gwerthuso a Dysgu:
- Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Cymunedol i gyd-greu a chyflwyno strategaethau gwerthuso effeithiol a phriodol i alluogi Celfyddydau SPAN a'n cefnogwyr i ddeall ein heffaith
Partneriaethau:
- Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Cymunedol i ddatblygu partneriaethau newydd a chynnal a thyfu partneriaethau sy’n bodoli’n barod sy'n galluogi SPAN i gyrraedd cymunedau newydd o bobl a lleoedd a lleihau rhwystrau rhag cael mynediad i'n gwaith, gan gynnwys chwilio am gyfleoedd newydd i SPAN bartneru â chydweithwyr o bob rhan o'r sector a thu hwnt
- Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Cymunedol i gefnogi datblygiad y sector creadigol lleol drwy gymryd rhan mewn rhwydweithiau, cymryd rhan weithredol mewn cefnogaeth sector, ac adeiladu perthynas gydag artistiaid a chwmnïau creadigol
Cyffredinol
- Rhannu dysgu yn fewnol ac yn allanol fel ei gilydd
- Cymryd cyfrifoldeb dros eich Iechyd a’ch Diogelwch eich hun yn y gweithle
- Cadw at bolisïau a gweithdrefnau Celfyddydau SPAN, gan gynnwys polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Mynychu cyfarfodydd mewnol ac allanol sy'n briodol i'r rôl yn ôl y galw.
- Cynnal unrhyw dasgau eraill fel y gofynnir yn rhesymol amdanynt gan Gyfarwyddwr Celfyddydau Span a/neu fwrdd yr Ymddiriedolwyr
Proffil y Rôl.
Mae angen i chi fod yn hawdd siarad â chi, yn gynnes eich ymagwedd ac yn nawsio llawenydd yn eich agwedd at y gwaith.
Bydd angen rhywfaint o ddealltwriaeth arnoch o'r gymuned leol ac arlliw faint o gymunedau gwahanol ar wahân sy'n bodoli ochr yn ochr (siaradwyr Cymraeg/Saesneg, gwlad a thref, ymfudwyr/amgen a rhai a anwyd ac a fagwyd yma, dosbarth canol a dosbarth gweithiol, pobl o liw a'r gymuned wen, Gogledd a De, niwroamrywiol a niwronodweddiadol).
Mae angen rhywfaint o ddealltwriaeth arnoch o bwysigrwydd a’r lle sydd gan y Gymraeg yng Ngorllewin Cymru, ac yn ddelfrydol byddwch yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg). Rhaid i chi allu cefnogi arddulliau ymgysylltu amrywiol ac addasol a bod â rhywfaint o ddealltwriaeth o gynhwysiant wrth gyrraedd ac ymgysylltu â chymunedau amrywiol a gwahanol. Rhaid i chi fod ag ymwybyddiaeth o, neu fod yn barod i ddysgu am y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, y cwricwlwm addysg newydd, ac egwyddorion cyd-greu.
Mae'n rhaid i chi fod â'r natur agored a'r hyblygrwydd i ddod i'r gymuned gyda meddwl agored wrth gynorthwyo'r Cynhyrchydd Cymunedol i adeiladu cynllun a rhaglen gyda'ch gilydd ac addasu yn ôl yr angen. Mae angen i chi fod yn agored i greu newid, cymryd risgiau, a gallu deall pwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth gydag artistiaid wrth eu cefnogi i greu gwaith gwirioneddol effeithiol gyda'r gymuned.
Sgiliau, Profiad a Phriodoleddau
Rydym yn agored i brofiad bywyd a sgiliau trosglwyddadwy. Nid oes angen i chi fod wedi gwneud y swydd hon o'r blaen rhywle arall ond bod gennych y gallu, y ddealltwriaeth a'r ymroddiad i'w wneud yma.
I fod yn wych yn y swydd bydd angen:
Y gallu i ysbrydoli pobl i gymryd rhan, o aelodau'r gymuned a gwirfoddolwyr i bartneriaid a gwleidyddion
Sgiliau cyfathrebu da, sydd â'r potensial i feithrin perthnasoedd cynhyrchiol gydag ystod eang o bobl
Ymrwymiad i'r gwahaniaeth y gall y celfyddydau a chreadigrwydd ei gael mewn lleoliad cymunedol
Profiad o wneud i bethau ddigwydd, cynorthwyo i reoli digwyddiadau, prosiectau neu raglenni mewn lleoliadau yn y celfyddydau, y gymuned, neu wirfoddoli.
Sgiliau trefnu da, y gallu i gadw pethau ar y trywydd iawn, cadw cofnodion da a rhannu gwybodaeth.
Bod yn fyfyriol yn y ffordd rydych chi'n gweithio i ddeall y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud ac yn ceisio dysgu ac addasu ochr yn ochr â, ac mewn ymgynghoriad â, y Cynhyrchydd Cymunedol
Y gallu i ymdopi â newid ac addasu cynlluniau os oes angen i gyd-fynd ag anghenion ein cymuned.
Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Trwydded yrru lân a mynediad i gar.
Mewn byd delfrydol rydym hefyd yn chwilio am rywun:
Sydd â rhywfaint o ddealltwriaeth o waith cyd-ddylunio a chyd-greu gyda'u cymuned a sydd â pheth profiad o weithio fel hyn.
Sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl
Sydd yn deall yr angen am ddiogelu gwirfoddolwyr, staff ac aelodau o'r gymuned yn ôl y gofyn, pan fo hynny'n briodol.
Sydd wedi cynorthwyo ar ddigwyddiadau sy'n wynebu'r cyhoedd yn y gorffennol, ac wedi gweithio gyda systemau tocynnau/swyddfa docynnau
Sydd yn gysylltiedig â'r gymuned yng Ngorllewin Cymru ac yn deall sut mae gwahanol gymunedau’n rhyngweithio
Trosolwg Rôl
Mae hwn yn gytundeb tymor penodol sy'n cael ei gefnogi gan gyllid Gwella Sir Benfro.
Gallwn gynnig patrwm gweithio hybrid sy'n cyfuno gweithio gartref gyda chyfnodau o amser yn y swyddfa er mwyn sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn agored iawn i drafod cynigion rhannu swydd.
Mae Celfyddydau SPAN yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol ac mae'n cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth gyflogaeth a gofynion statudol fel safon isafswm i adeiladu ohoni.
Dyddiadau Allweddol
Dyddiad Cau ar Gyfer Ceisiadau: 9yb, Dydd Llun Ebrill 29ain 2024
Cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn Mai 6ed
Byddwn yn cysylltu dros y ffôn neu e-bost gydag ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer. Er y byddwn yn ymdrechu i gyd-weithio gyda phob ymgeisydd, gwnewch eich gorau i sicrhau eich argaeledd ar gyfer y dyddiad hwn os gwelwch yn dda.