Teitl y Swydd: Cynhyrchydd Celfyddydau Gweledol

Contract: Llawrydd/Contract Cyfnod Penodol

Hyd: Diwedd mis Mai - mis Rhagfyr 2025

Ffi: 25 niwrnod ar gyfradd ddyddiol o £250 - £350 = rhwng £6250 a £8750.

Lleoliad: Abertawe (gyda gweithio hyblyg yn ôl yr angen)

Dyddiad cau estyndig ar gyfer gwneud cais: canol dydd, 13 Mai 2025

Cyfweliadau ar-lein: 3 a 4 Mehefin 2025

Ynghylch y rôl

Mae Cyngor Abertawe’n chwilio am Gynhyrchydd Celfyddydau Gweledol profiadol a threfnus iawn i arwain ar ddigwyddiadau ac arddangosfeydd celfyddydau gweledol Penwythnos Celfyddydau Abertawe, yn dilyn cynnal Penwythnos Celfyddydau Abertawe am y tro cyntaf yn 2024. Bydd Penwythnos Celfyddydau Abertawe, a gynhelir mewn lleoliadau a mannau cyhoeddus yn y ddinas, yn arddangos dawn greadigol gyfoethog y ddinas drwy berfformiadau byw, arddangosfeydd, gweithdai a mwy.

Rydym yn chwilio am gynhyrchydd â hanes o gyflwyno digwyddiadau diwylliannol uchelgeisiol a chynhwysol. Byddwch yn hyderus wrth reoli partneriaethau, cydlynu timau, goruchwylio logisteg, arwain ar amserlennu celfyddydau gweledol, a sicrhau cyflwyno o ansawdd uchel o'r dechrau i'r diwedd.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Arwain y gwaith o ddatblygu, cynllunio a chyflwyno arddangosfeydd a digwyddiadau celfyddydau gweledol aml-leoliad ar gyfer Penwythnos Celfyddydau Abertawe, gan weithio'n agos gydag uwch-reolwyr y cyngor, swyddogion y cyngor, partneriaid, lleoliadau a'r sector diwylliannol ehangach.
  • Rheoli amserlenni cynhyrchu, cyllidebau, contractau, a logisteg digwyddiadau.
  • Gweithio'n agos gyda'r tîm marchnata digwyddiadau.
  • Comisiynu a chydlynu artistiaid, lleoliadau a thimau creadigol.
  • Goruchwylio unrhyw isadeiledd digwyddiadau, hygyrchedd, trwyddedu, a gofynion iechyd a diogelwch, os oes rhai, nad ydynt o fewn unrhyw feysydd comisiynu.
  • Monitro cynnydd yn erbyn amcanion y cyngor a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
  • Sicrhau bod cynhwysiant, cynaliadwyedd a chreadigrwydd wrth wraidd y modd y cyflwynir y penwythnos.
  • Arwain ar gyflwyno digwyddiadau yn ystod y penwythnos a darparu mewnbwn gwerthuso ar ôl y digwyddiad.

Rydym yn chwilio am rywun a chanddo:

  • Brofiad sylweddol o gynhyrchu arddangosfeydd a digwyddiadau celfyddydau gweledol o ansawdd uchel sy'n cynnwys elfennau sy'n wynebu'r cyhoedd ac amryfal bartneriaid.
  • Sgiliau amserlennu digwyddiadau cyhoeddus cryf.
  • Sgiliau trefnu a rheoli prosiectau cryf, gan gynnwys rheoli cyllideb.
  • Hyder wrth weithio ar draws sawl ffurf a fformat celf, gyda ffocws ar y celfyddydau gweledol.
  • Profiad o weithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau creadigol a grwpiau cymunedol.
  • Dull cydweithredol a chynhwysol o weithio gyda phobl.
  • Sgiliau datrys problemau digyffro, yn enwedig mewn amgylcheddau byw.

Cais

I wneud cais, anfonwch:

  • Datganiad byr (hyd at 2 dudalen) yn amlinellu eich profiad a'ch ymagwedd at arddangosfeydd a digwyddiadau'r celfyddydau gweledol megis Penwythnos Celfyddydau Abertawe.
  • Eich ffi.
  • Eich CV.
  • 2 eirda sy'n dangos eich profiad.
  • Enghreifftiau o waith blaenorol (neu ddolen i'ch portffolio).

E-bostiwch eich cais at kate.wood@abertawe.gov.uk erbyn canol dydd, 13 Mai 2025.

Ei ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
 

Dyddiad cau: 13/05/2025