Mae’n gyfle newydd â thâl sy'n defnyddio celfyddyd i edrych ar effaith y newid yn yr hinsawdd ar fywyd bob dydd. Cânt gefnogaeth a chyfleoedd i ddatblygu eu gwaith artistig a herio sut mae pobl yn meddwl am yr hinsawdd i’w hannog i fyw bywyd mwy cynaliadwy.
Dyma’r wyth artist: Kathryn Ashill; Angela Davies; Kirsti Davies; Dylan Huw; Durre Shahwar; Rhys Slade-Jones; Fern Thomas; Heledd Wyn.
Cânt grant o £25,000. Hefyd bydd cyfle iddynt gymryd rhan mewn digwyddiadau gyda gwyddonwyr a meddylwyr ym maes y newid yn yr hinsawdd a ffyrdd o fyw’n gynaliadwy.
Y sesiwn gyntaf fydd ar 28 Mawrth 2022 gan Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth. Bydd arbenigwyr blaenllaw yn trafod materion amgylcheddol ac arferion cynaliadwy ar y cwrs preswyl deuddydd.
Gofynnwyd am geisiadau ddechrau Chwefror a chafwyd dros 90 cais gwych.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn bartneriaid ar y cyd i’r Gymrodoriaeth. Mae’n rhan o raglen ehangach o waith sy’n gysylltiedig â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Natur Greadigol i ddeall yn well sut y gall celf a diwylliant chwarae rhan fuddiol wrth ymgysylltu â phobl ar faterion allweddol megis yr hinsawdd ac argyfyngau natur.
Bydd yr artistiaid yn archwilio tair prif thema: ynni, bwyd a thrafnidiaeth
"Rydym wedi dewis wyth artist rhagorol. Byddant yn ysbrydoli dulliau newydd o ymwneud â chynaliadwyedd, lles, yr argyfwng hinsawdd a chyfiawnder hinsawdd gan gysylltu â bywyd pobl Cymru a’r tu hwnt.
"Cawsom ein syfrdanu gan angerdd ac ymrwymiad yr ymgeiswyr. Byddwn yn manteisio wedyn ar eu cyfoeth o arbenigedd wrth inni ddatblygu ein cynllun i fynd i’r afael â chyfiawnder hinsawdd a'r celfyddydau."
Judith Musker Turner, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae’n gymaint o fraint dod â’r grŵp anhygoel hwn o artistiaid at ei gilydd. Gwyddom o’n Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 fod angen inni, fel cymdeithas, fyw’n wahanol os ydym am helpu i gyfyngu ar gyfraniad Cymru at y cynnydd yn nhymheredd y byd. Mae diwylliant Cymreig wedi’i blethu mor sylfaenol â byd natur mae’n hanfodol bod diwylliant yn rhan o’n sgwrs am y blaned rydyn ni’n ei gadael i genedlaethau’r dyfodol.
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyffrous i gael gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan y Dechnoleg Amgen ar y Gymrodoriaeth hon. Mae’n ymgorffori llawer o’r gwerthoedd y sefydlwyd gennym i’w cefnogi, ac yn rhoi creadigrwydd ac empathi wrth galon ein hymateb i newid yn yr hinsawdd."
Joe Roberts, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.