A allwn ni ddangos arferion creadigol y meddwl a'u gwerth wrth ddatblygu llythrennedd a rhifedd ymhlith disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn Ysgol Eglwysig Pentip yng Nghymru, tra’n cyd-gynhyrchu a dylunio ardal awyr agored sy’n canolbwyntio ar themâu’r ysgol: Hunan-fyfyrio, Twf a Chynaliadwyedd?
Mae Ysgol Eglwysig Pentip yn Llanelli yn ysgol fach sydd yn y broses o ail-ddiffinio ei hun a thyfu nifer y disgyblion. Mae’n ysgol mewn cymuned aml-ieithog ac aml-ffydd, yr hoffent ei chofleidio. Mae’r ysgol am ddatblygu ardal awyr agored dawel ac ymgynghorol, sydd yn hygyrch i blant o bob ffydd. Byddwch yn gweithio gydag un dosbarth o 27 o blant ym mlynyddoedd 3 a 4. Dylid cyd-ddatblygu'r canlyniadau gyda'r disgyblion a’r staff. Mae'r prosiect yn brosiect tymor yr haf ac yn awgrymu dull sy’n cyfrannu at yr amgylchedd ysgol, y gymuned, y diwylliant a’r dysgu, drwy arddio, cerflunwaith, pensaernïaeth, dylunio neu arferion synhwyraidd. Er hynny, rydym yn agored i unrhyw ddull sy’n cyd-fynd ag amcanion y prosiect.
Byddai rhannu'r broses a/neu'r canlyniadau gyda’r gymuned o amgylch yr ysgol, ac yn cynnwys ymweliad oddi ar y safle fel rhan o’r prosiect, yn cael ei groesawu. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys gweithio gyda’r athrawon i bwysleisio agweddau perthnasol ar lythrennedd a rhifedd, a hynny yn unol â’r egwyddorion allweddol ar gyfer prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol – sef Ystafell Ddosbarth Sy’n Gweithio’n Uchel a’r Pump Arfer Creadigol.
Mae profiad blaenorol o brosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol yn angenrheidiol.
Tâl ac Cyllideb
Mae’r gyllideb yn £5000. Rydym yn rhagweld y bydd y cyfanswm a glustnodir ar gyfer ffioedd y Ymarferydd Creadigol tua £3600, gyda’r gyllideb ar gyfer deunyddiau, hyfforddiant, teithio ac elfennau eraill tua £1400.
Mae’r cyfle hwn ar gael i unigolion, casgliadau, neu’r rhai sydd â diddordeb mewn cydweithio ag unigolyn creadigol arall (gan gynnwys y posibilrwydd o fentora artist llai profiadol).
Hyd y Prosiect
Disgwylir i’r ffi gynnwys 10 sesiwn diwrnod llawn yn ystod tymor yr haf, gan ddechrau yn wythnos gyntaf y tymor. Mae’r ffi hefyd yn cynnwys amser paratoi, cyflwyno a chreu naratif gwerthuso.
Manylion Cais
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5yp, Dydd Iau 27ain Mawrth.
Mae angen i ymgeiswyr gyflwyno llythyr eglurhaol neu fideo sy’n mynd i’r afael â’r pwyntiau canlynol:
- Rhannu gwaith sy’n dangos cymhwysedd yn eich arfer creadigol.
- Esbonio pam mae’r prosiect hwn o ddiddordeb i chi, sut y gallai gyd-fynd â’r briff a sut y gallai ysbrydoli’r disgyblion.
- Dangos dealltwriaeth o Gyd-gynhyrchu, dulliau Canolbwyntiedig ar Ddisgyblion, a Dysgu Creadigol Agored yn unol â’r cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.
- Tystiolaeth o gyflwyno o leiaf un prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol yn unol â chyllidebau ac amserlenni cytunedig.
- Bod yn lleol i / neu gallu teithio i Lanelli, De Cymru.
- Darparu manylion geirda.
Cysylltu am Ymholiadau a Chyflwyno Ceisiadau
Am unrhyw ymholiadau neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â Phil Lambert:
pwrlambert@googlemail.com / 07980605391
Anfonwch fynegiant o ddiddordeb at:
Nick Davies – NICHOLAS.DAVIES@penrhos.ysgolccc.cymru
(CC: pwrlambert@googlemail.com)
Rhowch yn y blwch pwnc: LCS Project Application
Nid yw e-byst i fod i fod dros 10MB – gallwn dderbyn dolenni i wefannau neu debyg.
Cyfweliadau
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn Ysgol Gynradd Pentip, Dydd Iau 3ydd Ebrill.
Byddai’n well gennym gyfweliadau wyneb yn wyneb er mwyn i chi allu gweld ac ymgysylltu â’r ysgol, ond gallwn drefnu cyfweliadau ar-lein os oes angen.
Os oes gennych anawsterau mynychu ar y dyddiad hwn, cysylltwch i drafod.
Dyddiad Dechrau’r Prosiect
Hoffem gynnal cyfarfod cynllunio yn wythnos olaf tymor y gwanwyn: 7-10fed Ebrill.
Hoffem i’r sesiwn gyntaf o gyflwyno ddigwydd rhwng 28ain Ebrill – 2il Mai yn wythnos gyntaf y tymor.
Os oes problem gyda’r amserlen hon, mae croeso i chi gysylltu i drafod.
Diolch am eich diddordeb… ac os oes angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Phil Lambert