Mae Ballet Cymru yn chwilio am Swyddog Cyllid
Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm dynamig sy'n tyfu ac sy'n gweithio i un o sefydliadau Portffolio Celfyddydol Cymru, Ballet Cymru. Bydd y rôl newydd hon yn helpu i ddatblygu cenhadaeth y cwmni i fod yn sefydliad celfyddydol Cymreig cynhwysol ac arloesol.
Bydd y Swyddog Cyllid yn rhan annatod o dîm Ballet Cymru o ran rheoli cyllid yr Elusen. Bydd hon yn rôl newydd, a bydd yr unigolyn yn gyfrifol am y tasgau ariannol o ddydd i ddydd, yn ogystal ag am gynorthwyo i reoli, cyflawni a monitro cyllid yr elusen a pharatoi'r cofnodion blynyddol.
Mae hwn yn gyfle lefel mynediad gwych i rywun sydd am ddatblygu ei yrfa ym maes cyllid/cyfrifyddiaeth, gyda chyfleoedd o ran hyfforddiant a datblygiad perthnasol ar gyfer yr unigolyn iawn wrth i'r sefydliad dyfu.
Yn atebol i: Gweinyddwr, Cyfarwyddwyr Artistig
Lleoliad: Ballet Cymru, Casnewydd (ystyrir trefniadau gweithio'n hyblyg)
Oriau: 22 awr yr wythnos
Cyflog: £28 mil i £30 mil p/a pro rata, yn dibynnu ar brofiad
Buddion: Cynllun pensiwn cwmni; gwyliau, cymorth gyda hyfforddiant perthnasol
Cyfnod Prawf: 3 mis
Cyfnod Rhybudd: 1 mis
I gael manylion am sut i wneud cais, lawrlwythwch Mhecyn y Swydd Swyddog Cyllid
GWNEUD CAIS
I wneud cais, anfonwch eich CV, ynghyd â llythyr eglurhaol sy'n nodi eich sgiliau a'ch profiad ar gyfer y rôl, a hynny trwy e-bost at Weinyddwr Ballet Cymru, Jenny Carter jenny@welshballet.co.uk
Y Dyddiad Cau ar gyfer Gwneud Cais: Dydd Llun 16 Rhagfyr 2024. Bydd y ceisiadau a gyflwynir yn cael eu hadolygu a bydd rhestr fer yn cael ei llunio ar ôl iddynt ddod i law.
Cynhelir y cyfweliadau yn yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Ionawr 2025, yn adeilad Ballet Cymru, Casnewydd NP10 9FQ
Dyddiad Dechrau: 10 Chwefror 2025 (neu'n gynt os yw'n well gennych)
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i weithio yn y DU.
Mae Ballet Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal. Rydym yn annog ceisiadau gan gymunedau anabl, B/byddar, niwroamrywiol, LGBTQ+, Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig.