Mae C&B Cymru yn falch iawn i’ch gwahodd chi i gyflwyno cynnig i ddyfeisio a chyflwyno prosiect ar gyfer un o’i Haelodau Busnes.

Mae Linc Cymru yn Gymdeithas Tai a darparwr Gofal sy’n gweithio ar draws De-ddwyrain Cymru, gan gynnig cartrefi i deuluoedd, Gofal Ychwanegol a Chartrefi Nyrsio. Mae Linc yn credu mewn creu’r amgylchedd cywir i bobl ffynnu ac mae’n falch bod y cartrefi y mae’n eu hadeiladu a’r amgylcheddau naturiol sy’n eu cynnal yn cyfrannu at wella ansawdd bywyd.

Yn ddiweddar, mae Linc wedi dechrau gweithio ar The Cascade, datblygiad o 48 o fflatiau a dwy uned fanwerthu ar City Road, Caerdydd ac yn dymuno comisiynu artist / sefydliad celfyddydol i greu murlun ar gyfer ardal cwrt yng nghefn y datblygiad, gan ei wneud yn fwy deniadol yn weledol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, e-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk

Dyddiad cau: 06/05/2024