Cyfarwyddwr Theatre Green Book UK

Cytundeb Cyfnod Penodol 12 Mis (0.6 CALl / 3 diwrnod yr wythnos)

 

Mae Pwyllgor Llywio’r Theatre Green Book yn chwilio am Gyfarwyddwr ar gyfer Theatre Green Book UK i adeiladu ar lwyddiant y Theatre Green Book ac i fynd â’r fenter ar gam nesaf ei datblygiad fel adnodd cenedlaethol a rhwydwaith ar gyfer ymarferwyr theatr ledled y DU. Bydd y Cyfarwyddwr yn gefnogwr brwd a gwybodus o ymarfer theatr cynaliadwy a bydd ganddo/ganddi’r gallu i greu gweledigaeth a dyfodol cynaliadwy i’r Theatre Green Book, gan gynyddu ymgysylltiad a defnydd a chefnogi rhwydweithiau o ddefnyddwyr ledled y DU.

Mae'r Theatre Green Book (TGB) yn adnodd sector cyfan er mwyn cefnogi theatrau ac ymarferwyr theatr i wneud pob agwedd ar eu gwaith yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, ar draws cynyrchiadau, gweithrediadau ac adeiladau.  Mae’n adnodd ar-lein ac yn rhwydwaith o ymarferwyr theatr ar draws pob rôl sydd wedi ymrwymo i ddatblygu arfer gorau mewn theatr amgylcheddol gynaliadwy a hyrwyddo’r defnydd o’r Theatre Green Book yn ehangach. Ochr yn ochr ag ymgysylltiad sylweddol a hanfodol â’r sector, dros y flwyddyn ddiwethaf mae Theatr Green Book UK wedi symud ymlaen diolch i waith Cydlynydd rhan-amser a bydd swydd newydd y Cyfarwyddwr yn gweithio gyda’r Cydlynydd i adeiladu ar y cyflawniadau hynny.

Mae’r ail rifyn o’r Theatre Green Book, a lansiwyd ym mis Mehefin 2024, yn darparu canllawiau ac offer ar-lein clir i gefnogi ymarferwyr i nodi a chyflawni targedau cynaliadwyedd uchelgeisiol ond realistig.  Cryfder y fenter yw iddi gael ei datblygu a’i chynnal trwy bartneriaeth eang a gweithgar o theatrau, gwneuthurwyr theatrau a sefydliadau cymorth sector, gyda chefnogaeth tîm cynaliadwyedd arbenigol yn y practis peirianneg, Buro Happold.

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â’r fenter arobryn hon ac mae’r swydd hon sydd â chontract tymor penodol o 12 mis wedi’i chreu i lywio cam nesaf datblygiad y Theatre Green Book ac i gyflawni’r amcanion y cytunwyd arnynt gyda Chyngor Celfyddydau Lloegr fel rhan o’r cynllun cyflawni strategol.  Mae potensial i ymestyn y swydd y tu hwnt i’r 12 mis cyntaf yn amodol ar greu incwm llwyddiannus a/neu godi arian.

 

Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o liw, pobl LHDTC+ (rydym yn sefydliad traws-gynhwysol), pobl ag anableddau, a phobl sydd wedi profi allgáu neu ymyleiddio arall.

Cyflog £50,000 CALl (£30,000 pro rata ar 0.6 CALl).

Er ei bod yn cael ei chynnig fel swydd gyflogedig, rydym hefyd yn agored i ystyried cynigion i ymgymryd â'r swydd hon ar sail llawrydd. 



Nid oes angen i'r swydd fod wedi'i lleoli yn ein swyddfa yn Llundain, er efallai y bydd angen rhywfaint o deithio ledled y DU i fynychu sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd yn y cnawd.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd, ddydd Llun, 1 Gorffennaf.

 

Cynhelir cyfweliadau ar-lein ddydd Mawrth, 16 Gorffennaf.

 

I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen gais a phecyn y swydd o wefan y Theatres Trust: http://www.theatrestrust.org.uk/about-us/opportunities

Dyddiad cau: 01/07/2024